Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 6 Rhagfyr 2016.
Yn sicr, rydym ni mewn sefyllfa dda i fanteisio ar ynni'r llanw yn arbennig. Rydym ni’n gwybod y gallai morlyn llanw bae Abertawe greu 1,900 o swyddi tybiedig yn ystod y gwaith adeiladu a thu hwnt. Mae'n hynod bwysig nawr bod Llywodraeth y DU yn cymryd y cam hwnnw o sicrhau bod yr hyn a fydd yn ffynhonnell ynni a fydd yn para am 100 mlynedd neu hwy yn dod i fodolaeth mewn gwirionedd, ac y gallwn gynhyrchu mwy o ynni yn rhatach dros 100 mlynedd, o ran ei ystyried felly, ond hefyd, wrth gwrs, mewn ffordd llawer glanach a gwyrddach.