Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 6 Rhagfyr 2016.
Cyhoeddwyd yr wythnos diwethaf mai Abertawe yw’r 13eg mewn rhestr o drefi a dinasoedd â’r mwyaf o dagfeydd yn y DU, ac mae’n debyg bod hynny’n arwain at ostyngiad i gynhyrchiant y ddinas, yn ogystal â llygru'r aer. Dair blynedd yn ôl, gosododd cyngor Abertawe ei system nowcaster i fonitro lefelau llygredd aer, i nodi ansawdd aer gwael ac i ailgyfeirio traffig. Nid yw’n barod o hyd, er i Lywodraeth Cymru ymrwymo £100,000 o'i harian i'r system. Gyda’r nod o fynd i'r afael â’r newid yn yr hinsawdd, sut gwnewch chi gasglu data ar allyriadau carbon, sut gwnewch chi ddefnyddio'r data hynny a sut gwnewch chi ymdrin wedyn ag unrhyw bartneriaid yr ydych chi’n dibynnu arnynt i’ch helpu chi i gael y data hynny os na fyddant yn cyflawni?