Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 6 Rhagfyr 2016.
Roedd honna’n ergyd rad at arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn fy marn i. [Chwerthin.] Nid yw'r Aelod yn ymwybodol, rwy’n gwybod, ond mae'n Nadolig wedi'r cwbl. Y gwir yw nad oes dim pwynt dim ond rhoi’r modd i bobl wneud eu cartrefi'n fwy effeithlon o ran ynni. Ydy, mae hynny'n bwysig, ond nid yw'n ddigon ynddo’i hun. Mae'n hynod bwysig ein bod ni’n parhau i gael mynediad at gronfeydd ynni wrth gefn sydd â chymysgedd o ynni. Mae’r Aelod yn iawn i ddweud na all popeth gael ei wneud gydag ynni gwynt, ond mae’n sicr bod ganddo ran i'w chwarae, ac mae hynny’n wir yn llawer iawn o economïau ledled y byd. Mae'n sôn ei fod yn niweidio’r amgylchedd—mewn gorsafoedd ynni glo, a'r glo sy’n cael ei ennill i’w bwydo, gwneir hynny mewn ffordd niweidiol iawn i'r amgylchedd. Mae gan gymunedau sy'n byw drws nesaf i safleoedd glo brig rywbeth cryf iawn i'w ddweud am hynny. Y gwir yw bod pawb eisiau i’r goleuadau ddod ymlaen. Mae hynny'n golygu bod yn rhaid i ni gael modd o gynhyrchu pŵer. Mae gwynt am ddim. Mae'n rhaid adeiladu’r seilwaith, mae hynny'n wir. Bydd y llanw bob amser yno cyn belled ag y bo’r lleuad yno. Mae'n gwneud synnwyr llwyr i mi i harneisio’r ffynonellau hyn o bwerau sydd nid yn unig yn lân ac yn wyrdd, ond, yn y tymor hwy, yn llawer rhatach a dweud y gwir.