<p>Cydlyniant Cymunedol</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 6 Rhagfyr 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Steffan Lewis Steffan Lewis Plaid Cymru 2:00, 6 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna. Yr wythnos diwethaf, dywedodd yr Aelod Seneddol dros Aberafan bod yn rhaid i ni symud oddi wrth amlddiwylliannedd a thuag at gymathu, a bod yn rhaid i ni sefyll dros un grŵp: pobl Prydain. A wnaiff y Prif Weinidog gondemnio’r sylwadau hyn yn blwmp ac yn blaen, ac a wnaiff ef roi sicrwydd i’r Cynulliad hwn nad yw safbwyntiau o'r fath yn gynrychioliadol o bolisi Llywodraeth Cymru, ac a wnaiff ef ymuno â mi i ddathlu amrywiaeth gyfoethog y wlad hon?