<p>Cydlyniant Cymunedol</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 6 Rhagfyr 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:01, 6 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

Ni chlywais i’r sylwadau, a dweud y gwir, ond yr hyn y gallaf ei ddweud yw na fu achlysur erioed yn hanes yr ynys hon pan fu un diwylliant, erioed. Mae wedi bod yn ynys amlddiwylliannol erioed, boed o ran crefydd, boed o ran amrywiaeth ieithyddol, boed o ran lliw croen pobl. Y gwir yw bod pobl gyda chroen du wedi bod ar yr ynysoedd hyn ers y drydedd ganrif; mae'n gamargraff i feddwl bod hyn yn rhywbeth newydd. Mae wedi bod yn wir erioed bod Prydain wedi bod yn amlddiwylliannol, ac mae hynny'n rhywbeth y dylem ni ei ddathlu, nid ei ofni.