<p>Polisi Amaeth</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 6 Rhagfyr 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:04, 6 Rhagfyr 2016

Mae amaeth yn ddiwydiant a hefyd yn ddiwylliant, byddwn i’n dweud, allweddol i Gymru, o ran y bwyd mae’n ei gynhyrchu, y cyfraniad economaidd mae’n ei wneud a’r budd cyhoeddus ehangach sy’n deillio ohono. Yn dilyn y refferendwm, rydym ni wedi bod wrthi’n cynnal trafodaethau â rhanddeiliaid ynglŷn â’r weledigaeth i’r dyfodol ar gyfer y maes hwn.