1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 6 Rhagfyr 2016.
5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi amaeth Llywodraeth Cymru yn sgil y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd? OAQ(5)0320(FM)[W]
Mae amaeth yn ddiwydiant a hefyd yn ddiwylliant, byddwn i’n dweud, allweddol i Gymru, o ran y bwyd mae’n ei gynhyrchu, y cyfraniad economaidd mae’n ei wneud a’r budd cyhoeddus ehangach sy’n deillio ohono. Yn dilyn y refferendwm, rydym ni wedi bod wrthi’n cynnal trafodaethau â rhanddeiliaid ynglŷn â’r weledigaeth i’r dyfodol ar gyfer y maes hwn.
Diolch, Brif Weinidog, ac rwy’n cytuno bod amaeth yn aml iawn yn ddiwylliant gymaint ag yn ddiwydiant, ac yn cynnal ein diwylliant ni. Ond mae’n amlwg erbyn hyn fod yna rai sy’n elyniaethus i ddatganoli yn defnyddio y cyfle yn dilyn y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd fel ffordd o ddatgloi, drwy’r drws cefn, y broses ddatganoli sydd wedi rhoi’r pwerau dros amaeth a’r amgylchedd i ni fan hyn yn y Cynulliad. Wrth gwrs, mae arweinydd y Ceidwadwyr yma yn y Siambr, yn anffodus, yn un o’r rheini. A wnewch chi, felly, Brif Weinidog, ymuno â Phlaid Cymru a gydag unrhyw un arall yn y Siambr sydd am wneud hyn, mewn ymgyrch ar draws y pleidiau, gyda mudiadau cefn gwlad a’r undebau ffermwyr, i sicrhau, beth bynnag a ddaw yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd, na fyddwn ni’n colli yr un pŵer dros amaeth a chefn gwlad Cymru?
Rwyf wedi dweud hyn o’r dechrau, wrth gwrs, fod amaeth wedi cael ei ddatganoli. Nid cyfle yw hwn i dynnu pwerau oddi wrth bobl Cymru; dim o gwbl. Efallai bod yna achos i ystyried rhai pethau fel, fel rwyf wedi dweud o’r blaen, iechyd anifeiliaid i gael rhyw fath o bolisi sydd ar draws Prydain Fawr, ond dim ond drwy gytuno, ac nid bod San Steffan sy’n dweud, ‘Hyn sy’n mynd i ddigwydd ar yr ynys hon, ac nid oes dewis gyda chi yng Nghymru na’r Alban.’ Felly, cytundeb sy’n bwysig fan hyn, ac nid dim byd arall. Efallai y byddai’n werth siarad am ryw fath o fframwaith eithaf llac a chyffredinol, ond siarad a chytuno sy’n hollbwysig i hyn. Na, nid yw hwn yn gyfle i dynnu pwerau oddi wrth ffermwyr Cymru, Llywodraeth Cymru na phobl Cymru.
Rwy’n siŵr y byddwch chi’n ymwybodol, Brif Weinidog, bod problemau gweinyddu i ffermwyr sydd â thir sy'n gorwedd ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr o ran y cynllun taliadau sylfaenol sydd, bob blwyddyn, yn arwain at oedi mewn gwneud taliadau. Mae rheolau Ewropeaidd ynghylch hawlwyr trawsffiniol yn ei gwneud yn ofynnol i bob asiantaeth taliad sengl yng Nghymru a Lloegr fod ag asiantaeth ar wahân. A ydych chi’n teimlo, o ganlyniad i’r DU yn gadael yr UE, bod cyfle yma i gael system sy'n gallu datrys y broblem oherwydd, yn amlwg, mae hwn yn fater arwyddocaol i lawer o ffermwyr yn Sir Drefaldwyn?
Byddai hyn yn golygu, wrth gwrs, bod Llywodraeth Cymru yn cymryd drosodd taliadau i ffermwyr yn Lloegr, gan ein bod ni’n llawer gwell fel asiantaeth taliadau ac wedi bod ers blynyddoedd lawer o ran talu ac o ran cyflymder taliadau, a'r peth olaf y byddai ffermwyr Cymru ei eisiau, rwy’n amau, fyddai gweld y Rural Payments Agency yn dosbarthu cymorthdaliadau ffermio yng Nghymru. Bu problemau ynghylch ffermydd trawsffiniol; mae e’n iawn am hynny. Y rheswm am hynny yw oherwydd bod yr RPA wedi bod yn araf o ran darparu data i ni. Ceir gwell ffyrdd o wneud pethau, mae cymaint â hynny’n wir, ond rwy’n credu y byddai'n anfon ias i lawr esgyrn cefn y rhan fwyaf o ffermwyr Cymru pe byddent yn canfod y byddai’n rhaid iddyn nhw wynebu'r un oediadau ag y mae eu cydweithwyr wedi eu hwynebu yn Lloegr.
A wnaiff y Prif Weinidog gytuno â mi bod gadael yr Undeb Ewropeaidd yn rhoi cyfle gwych i ni yng Nghymru lunio polisi amaethyddol yn unol â’n hanghenion ein hunain? Bydd UKIP yn chwarae ei rhan lawn i helpu Llywodraeth Cymru ddatblygu polisi o'r fath, sy'n ei gwneud hyd yn oed yn fwy annealladwy y dylai'r Llywodraeth fod yn dilyn y trywydd y mae’n ei ddilyn yn y Goruchaf Lys heddiw fod pwerau'r Cynulliad hwn yn mynd i gael eu lleihau rywsut. O ganlyniad i adael yr UE, byddwn yn cael mwy o rym yn y Cynulliad, nid llai. Mae hyn yn rhywbeth y dylem ni fod yn edrych ymlaen ato ac yn ei groesawu, nid yn ceisio ei rwystro a’i atal.
Nid dyna farn arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, wrth gwrs. Pa un a yw’n torri tir ei hun yn hynny o beth, i ddefnyddio term y bydd yn gyfarwydd ag ef, neu pa un a yw’n siarad fel rhyw fath o ddirprwy ar ran Llywodraeth y DU, dim ond fe sy’n gwybod, ond mae wedi dweud ei fod yn credu bod hwn yn gyfle i gymryd pwerau oddi ar bobl Cymru ac, yn wir, oddi ar Lywodraeth Cymru—barn nad yw'n cael ei rhannu gan yr undebau ffermio. Mae wedi ei ddal yn ei fagl ei hun yn hynny o beth.
Yr un mater, a nododd undebau'r ffermwyr hyn yn gywir y bore yma, y mae angen i ni ei gael yn gwbl gywir, yw mynediad at y farchnad sengl. Maen nhw’n gwybod yn iawn faint o drychineb y byddai os na chânt werthu yn y farchnad honno ar yr un telerau. Yr anhawster, bod pan ddaw i gytundebau masnach rydd, yw bod amaethyddiaeth yn cael ei hepgor bron bob tro. Mae gwledydd yn amddiffynnol iawn o'u hamaethyddiaeth. Rydym ni’n gwybod y byddai rheolau Sefydliad Masnach y Byd, pe byddent yn cael eu gorfodi ar amaethyddiaeth, yn golygu tariff o 70 y cant ar gig oen o Gymru sy'n mynd i mewn i Ewrop. Ni all ffermio yng Nghymru wrthsefyll y math hwnnw o dariff. Ac felly, rwy’n ei gymryd ar ei air, ond mae’n rhaid i mi ddweud wrtho mai’r hyn sy’n gwbl hanfodol i—. Wel, ceir dau beth sy'n hanfodol i ddyfodol ffermio yng Nghymru: sicrwydd ynghylch cymorthdaliadau ar ôl 2020 a dosbarthiad teg o'r arian—nid cyfran Barnett, fel arall byddem ni 75 y cant i lawr o ble’r ydym ni nawr; ac, yn ail, y gallu i werthu ym mhrif farchnad ffermio Cymru, sef yr Undeb Ewropeaidd. Felly, byddai unrhyw fath o rwystr, os bydd ffermwyr Cymru yn wynebu’r rhwystr hwnnw o ran gwerthu i Ewrop, yn—ac rwy’n dewis fy ngeiriau yn gwbl fwriadol yma—drychinebus i ffermio yng Nghymru, a dyna pam mae’n rhaid i fynediad llawn a dilyffethair at y farchnad sengl fod yn egwyddor ddiffiniol i unrhyw Lywodraeth y DU yn ei thrafodaethau â'r UE.