Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 6 Rhagfyr 2016.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud ei gorau glas i amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus yn wyneb toriadau'r Torïaid o San Steffan, ond mae cyni cyllidol parhaus wedi golygu’n anochel y bu’n rhaid gwneud dewisiadau anodd, a bu gostyngiad sylweddol i’r gyllideb ar gyfer y rhaglen cyfleusterau a gweithgareddau cymunedol. Gwn fod hon yn ffynhonnell werthfawr o gyllid i lawer o grwpiau cymunedol yng Nghymru a gwnaeth Canolfan Pobl Ifanc Cwmbrân yn fy etholaeth i, sy'n gwneud gwaith ardderchog, gais yn ddiweddar dim ond i ddarganfod bod dyfodol y rhaglen mewn perygl. Yng ngoleuni'r arian cyfalaf ychwanegol, a wnewch chi drafod hyn gyda chydweithwyr yn y Cabinet, gyda’r nod o sicrhau y gallwn ni geisio parhau’r cymorth hynod werthfawr hwn i grwpiau cymunedol yng Nghymru?