1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 6 Rhagfyr 2016.
9. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr arian cyfalaf ychwanegol a bydd Llywodraeth Cymru yn ei gael yn dilyn y cyhoeddiad yn Natganiad yr Hydref Llywodraeth y DU? OAQ(5)0323(FM)
Gwnaf. Er gwaethaf y cyfalaf ychwanegol o £442 miliwn, bydd y gyllideb gyfalaf yn dal yn 21 y cant yn is yn 2019-20 nag yr oedd yn 2009-10.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud ei gorau glas i amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus yn wyneb toriadau'r Torïaid o San Steffan, ond mae cyni cyllidol parhaus wedi golygu’n anochel y bu’n rhaid gwneud dewisiadau anodd, a bu gostyngiad sylweddol i’r gyllideb ar gyfer y rhaglen cyfleusterau a gweithgareddau cymunedol. Gwn fod hon yn ffynhonnell werthfawr o gyllid i lawer o grwpiau cymunedol yng Nghymru a gwnaeth Canolfan Pobl Ifanc Cwmbrân yn fy etholaeth i, sy'n gwneud gwaith ardderchog, gais yn ddiweddar dim ond i ddarganfod bod dyfodol y rhaglen mewn perygl. Yng ngoleuni'r arian cyfalaf ychwanegol, a wnewch chi drafod hyn gyda chydweithwyr yn y Cabinet, gyda’r nod o sicrhau y gallwn ni geisio parhau’r cymorth hynod werthfawr hwn i grwpiau cymunedol yng Nghymru?
A gaf i ddiolch i'r Aelod, fy nghyd-Aelod, am y cwestiwn yna? Un pwnc yw hwn ymhlith llawer yr ydym ni’n eu hystyried fel Llywodraeth o ran sut yr ydym ni’n dyrannu arian newydd. O ran y rhaglen cyfleusterau cymunedol, ni fu gwerthusiad hyd yn hyn—mae'n dal i fod yn eithaf cynnar yn oes y rhaglen—ond mae ymweliadau monitro a gynhaliwyd â phrosiectau a gwblhawyd yn dangos bod y cyfleusterau’n cael eu defnyddio'n rheolaidd ac yn gynaliadwy i'r dyfodol. Ceir dewisiadau anodd o ran yr hyn y byddwn ni’n ei wneud gyda chyllid yn y dyfodol, ac rwy'n credu ei bod yn deg i ddweud mai dim ond y ceisiadau gorau un a all ddisgwyl denu cyllid CFP yn y dyfodol a byddwn yn gweld beth y gellir ei roi ar gael yn ystod trafodaethau sydd gennym ni o ran ymdrin ag unrhyw adnoddau ychwanegol y byddwn ni’n eu cael gan Lywodraeth y DU.
Diolch i’r Prif Weinidog.