Part of the debate – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 6 Rhagfyr 2016.
Wel, wrth gwrs, mae Nick Ramsay yn wyliadwrus iawn wrth godi materion ar ran ei etholaeth a hefyd, ar nifer o achlysuron, ynglŷn ag anghenion eich etholaeth mewn cysylltiad â datblygiadau seilwaith megis metro de Cymru. Wrth gwrs, gwn fod y Prif Weinidog wedi ymateb yn rhannol y prynhawn yma i gwestiynau a’i fod, wrth gwrs, yn ystyried y materion yn ymwneud â pharhau i allu cael gafael ar gyllid Ewropeaidd, sy’n bwysig iawn ar gyfer y metro. Mae hefyd yn cydnabod, fel y gwnaeth yn sicr wrth ateb cwestiynau blaenorol yn fy marn i, pa mor bwysig ydyw fod hyn yn rhan o’r cytundeb dinesig ar gyfer prifddinas-ranbarth Caerdydd a bod arweinydd Sir Fynwy yn cymryd rhan weithredol yn y prifddinas-ranbarth a sicrhau bod pob awdurdod lleol yn elwa ar hynny. Felly, wyddoch chi, o ran y wybodaeth ddiweddaraf, gwn y bydd Ysgrifennydd y Cabinet eisiau rhoi diweddariad ar adeg briodol ynglŷn â chynnydd o ran metro de Cymru.
O ran eich ail bwynt, rwyf eisoes wedi ymateb i Andrew R.T. Davies o ran canlyniadau'r ymgynghoriad a gynhelir ar ardrethi busnes ac, wrth gwrs, y gydnabyddiaeth fod hwn yn fater allweddol mewn rhannau o etholaethau ar draws Cymru.