Part of the debate – Senedd Cymru am 3:57 pm ar 6 Rhagfyr 2016.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad, a chyn mynd ymlaen at yr hyn sydd gennyf i’w ddweud, hoffwn nodi nad wyf yn amau am eiliad ei hymrwymiad personol ei hun a’i diddordeb yn y pwnc hwn, ond rwy'n ofni bod y datganiad hwn fel llawer o’r datganiadau yr ydym wedi eu cael gan y Llywodraeth yn ddiweddar—yn cynnwys llawer o brosesau, ychydig iawn o fanylion a bron dim o ran targedau. Rwy'n credu bod hyn yn siomedig iawn, mewn gwirionedd, ein bod wedi cyrraedd y cam hwn heb fwy o fanylion a mwy o wybodaeth am yr hyn y bydd ‘Ynni Cymru’ yn ei olygu mewn gwirionedd yn nhermau targedau ar gyfer y Llywodraeth.
Nid oes dim byd y gallaf anghytuno ag ef o ran amcanion lefel uchel y datganiad. Mae'n dweud,
‘Yn gyntaf, byddwn yn lleihau faint o ynni a ddefnyddiwn yng Nghymru.’
Gwych. Faint? Erbyn pryd? Sut? Yn ail,
‘Byddwn yn lleihau ein dibyniaeth ar ynni a gynhyrchir o danwyddau ffosil.’
Unwaith eto, gwych. Faint, pryd, a sut? Yr unig darged yn y datganiad yw targed Llywodraeth y DU i roi’r gorau i losgi glo erbyn 2025. Ac yn drydydd,
‘Byddwn yn mynd ati’n rhagweithiol i reoli'r newid i economi carbon isel.’
Wel, mae’r un cwestiynau yn codi, ond dewch i ni ofyn cwestiynau ar unwaith am hynny. Mae gennym ddinasoedd sydd eisoes yn gwahardd ceir diesel ymhen 10 mlynedd—Copenhagen yn dweud, ’Ni fydd gennym unrhyw geir tanwydd ffosil erbyn 2025.’ Beth y mae ein dinasoedd yn ei wneud? Beth y mae’r ddinas-ranbarth yn ei wneud? Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gyflawni'r amcanion hynny o fewn cyd-destun Cymru?
Cerbydau trydan—mae eisiau seilwaith cerbyd trydanol arnoch. Syml: ni all unrhyw ddatblygiad yng Nghymru sydd â darpariaeth parcio gael ei ddatblygu heb bwyntiau gwefru cerbydau trydan. Dim ond adeiledd y gellir ei ddatblygu dros bum i 10 mlynedd fel ‘na.
Hydrogen—beth yw swyddogaeth hydrogen mewn cludiant torfol, cludiant masnachol, ac yn enwedig ar gyfer metro de Cymru? Gallwn hepgor trydaneiddio ein rheilffyrdd drwy fynd yn syth at gludiant hydrogen. Dyma’r pethau yr wyf i am eu gweld mewn gweledigaeth gan Lywodraeth Cymru.
Rwy'n credu ei bod yn rhwystredig, oherwydd rydym ni’n gwybod mai newid yn yr hinsawdd yw'r bygythiad mwyaf sy'n wynebu'r ddynoliaeth, rydym ni’n gwybod bod gan Lywodraeth Cymru dargedau i ostwng 80 y cant ar allyriadau nwyon tŷ gwydr erbyn 2050 ac rydym yn gwybod bod gennym yr offer yma yng Nghymru i ymdrin ag ef. Mae gennym gyfoeth o adnoddau naturiol a gallwn yn rhwydd fod yn hunan-gynhaliol gan ddiwallu ein hanghenion trydan drwy ynni adnewyddadwy.
Felly, i ddod i un neu ddau gwestiwn penodol am ble y gallwn ni, gobeithio, mewn gwirionedd, gytuno a chyflawni rhywbeth ar hyn. Yn gyntaf oll, o ran effeithlonrwydd ynni, oes, mae gennym raglenni effeithlonrwydd ynni, ond beth yn awr yw rhaglen effeithlonrwydd ynni newydd Llywodraeth Cymru? Beth yw ei tharged? Mae'n gwbl realistig i feddwl am sicrhau bod 150,000 o gartrefi incwm isel yn ynni effeithlon erbyn 2020 trwy ddefnyddio, er enghraifft, pwerau benthyca yn ogystal â ffynonellau fel y Banc Buddsoddi Gwyrdd. Felly, a oes ymrwymiad yn awr i raglenni ôl-ffitio cartrefi ar raddfa fawr? A oes ymrwymiad i ddirwyn cloddio glo brig i ben fesul dipyn yng Nghymru? Ie, gwaharddiad ar ffracio, ond dewch i ni roi'r gorau'n raddol i gloddio glo brig hefyd, oherwydd rydym yn gwybod na fydd gennym y gweithfeydd hylosgi, mewn gwirionedd, i gymryd y glo hwnnw, felly pam ydym ni’n parhau i ganiatáu cloddio glo brig yn y dyfodol hirdymor? A oes ymrwymiad a ffordd o weithio i wella'r berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a'r Grid Cenedlaethol o ran rhwydweithiau dosbarthu a grid lleol?
Yn ddiddorol, ddoe, cyhoeddodd Cernyw ei bod, gyda chymorth cyllid Ewropeaidd, yn sefydlu’r farchnad ynni leol gyntaf yma yn y Deyrnas Unedig. Mae Centrica Nwy Prydain yn arwain ar hynny gyda phartneriaid lleol yng Nghernyw. Pam nad yw Cymru yn gwneud hynny? Pam mai Cernyw ac nid Cymru sy'n arwain y ffordd yn hynny o beth? A pham, er ein bod yn sôn am y morlyn llanw, nad oes mwy yn y datganiad am ynni morol? Mae'r morlyn llanw yn benderfyniad ar hyn o bryd i Lywodraeth San Steffan, ond mae gennym lawer y gallwn ei wneud i gefnogi ynni'r môr yma yng Nghymru.
Ac yn olaf, fy mhwynt olaf yw hwn: rydych chi wedi cytuno yn y gorffennol eich bod yn barod i ystyried cefnogi sefydlu cwmni ynni cenedlaethol, y mae Plaid Cymru yn ei alw’n ‘Ynni Cymru’—sef cwmni di-ddifidend hyd braich oddi wrth Lywodraeth Cymru, fel y gallwn fuddsoddi unrhyw elw mewn gwella gwasanaethau a lleihau ynni a hefyd darparu ynni rhatach yn fwy uniongyrchol i'r defnyddiwr. Gallai’r cwmni ynni hwnnw ei gwneud yn bosibl i ddatblygu rhaglenni ynni lleol; marchnadoedd ynni lleol; ynni cymunedol; gosod paneli solar ar raddfa fawr; galluogi busnesau a chyrff cyhoeddus i ddod yn fwy effeithlon o ran ynni; a helpu gyda’r dasg o leihau'r defnydd o ynni mewn cartrefi a busnesau. Mae’n amlwg bod gennych yr uchelgais, ond mae’n amlwg hefyd nad oes gan y Llywodraeth y modd na, mae'n ymddangos i mi, yr awydd i gyflawni hyn mewn gwirionedd, felly beth am sefydlu cwmni i wneud hyn ar eich rhan?