Part of the debate – Senedd Cymru am 4:16 pm ar 6 Rhagfyr 2016.
Ar hyn o bryd, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wrthi’n cyflwyno datganiadau ardal. Byddaf wedyn yn gallu gweithio gydag awdurdodau lleol ar hynny. Nid wyf wedi penderfynu os bydd rhagor o ganllawiau, ond rwy’n credu ei fod yn rhywbeth y gallwn weithio'n agos iawn arno—neu gall Cyfoeth Naturiol Cymru yn sicr wneud hynny—gweithio mewn partneriaeth, Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru, wrth symud ymlaen â'r cynlluniau datblygu lleol hynny.