Part of the debate – Senedd Cymru am 4:53 pm ar 6 Rhagfyr 2016.
Diolch. Nid wyf am ddweud wrthych chi pa bosteri oedd gennyf i ar wal fy ystafell wely yn fy arddegau, ond yn sicr nid oedden nhw’n economegwyr. Rwy'n cydnabod yr hyn yr ydych chi’n ei ddweud, Adam, ond a ydych chi wirioneddol yn dweud nad ydych chi’n credu bod unrhyw doriadau yn angenrheidiol o gwbl? Oherwydd os ydych chi’n dweud hynny, yna mae hynny'n hollol hurt. Mae'n rhaid i chi gredu mewn rhedeg economi mewn modd rhesymol gyllidol a chynaliadwy. Drwy ddweud nad oedd unrhyw doriadau yn angenrheidiol—wel, dewch o’ ‘na, mae hynny'n gelwydd.