Part of the debate – Senedd Cymru am 4:54 pm ar 6 Rhagfyr 2016.
Mae gennyf newyddion syml a drwg iawn iddo: oes, mae gennym ni ddyled enfawr yn y sector cyhoeddus, ond a ydyw wedi ystyried cyflwr dyledion corfforaethol yn y sector preifat? Mae economi gyfan y byd gorllewinol mewn dyled. Felly, beth mae'n ei awgrymu? Ein bod ni i gyd yn rhoi terfyn ar bob gweithgarwch economaidd, a'n bod ni’n cychwyn o’r cychwyn? Ailddarllenwch Keynes ar bob cyfrif. Rydym ni’n ôl yn yr un sefyllfa lle y mae diffyg ymddiriedaeth a hyder economaidd wedi ein gadael ni mewn sefyllfa lle nad oes ond un ysgogiad ar ôl, ac ysgogiad ydyw sydd yn nwylo pobl fel ni sydd wedi ein hethol i gynrychioli’r cyhoedd. Oni bai bod llywodraethau’n gweithredu ar draws y byd gorllewinol, yna rydym ni i gyd wedi ein condemnio, yn wleidyddol ac yn economaidd, i ddyfodol na fyddai unrhyw un—neb ohonom ni, rwy’n tybio—yn dymuno ei weld.
Gadewch i ni droi at y gyllideb. Rwy’n cydymdeimlo ag Ysgrifennydd y Cabinet, oherwydd mae’n rhaid iddo weithredu o fewn y cyfyngiadau a osodir arno yn y sefyllfa hon lle nad oes gennym ni sofraniaeth gyllidol ac economaidd i'r graddau yr hoffai’r blaid hon ei gweld. Felly, dyna yw cefndir ein trafodaethau ni yma, yn anffodus, ac wrth i ni gael rhagor o ymreolaeth wleidyddol ac ariannol, yna byddwn ni’n gallu gwneud mwy yn y dyfodol.
Roedd hi’n bleser cydweithio ag ef yn y dull chwilfrydig hwn o gyd-fyw gwleidyddol yr ydym ni wedi’i ddyfeisio rhwng ein dwy blaid, fel plaid lywodraethol a gwrthblaid, i wneud yr hyn sy'n iawn er budd pobl Cymru. Rydym ni’n anghytuno ar rai pethau, ac rydym ni’n sicr yn parhau i drafod y meysydd hynny yr ydym ni’n anghytuno yn eu cylch. Ond roedd hi’n dda gallu cytuno i roi cymorth, yn enwedig i sectorau, yn y flwyddyn hon, sydd, fel y mae wedi dweud, yn ymwneud â chreu, o bosibl, mwy o le er mwyn i ni ddarparu llwyfan ar gyfer y newid mwy sylweddol a fydd yn angenrheidiol dros y blynyddoedd i ddod. Rydym ni’n ystyried yn arbennig y cytundeb â Phlaid Cymru ar y sectorau hynny lle bu toriadau cyfresol dros lawer o flynyddoedd: addysg uwch; addysg bellach, nad yw’n cael digon o arian; y sector celfyddydau; llywodraeth leol, a dderbyniodd y cynnydd cyntaf mewn arian parod ers 2013-14; a gwariant ar iechyd meddwl, lle’r wyf i’n gwybod bod consensws ar draws y Cynulliad ei fod yn sector nad ydyw wedi bod yn cael digon o arian yn gymesur â'i bwysigrwydd dros nifer o flynyddoedd. Felly, roedd hi’n dda gallu rhoi'r rheiny ar waith o ganlyniad i’r cytundeb rhyngom.
Wrth gyfuno ein syniadau, credaf ein bod ni wedi gallu creu cyllideb well. Rwy’n dymuno gweld y Cynulliad cyfan hwn, mewn gwirionedd, yn gallu cyflawni’r swyddogaeth honno yn fwy effeithiol nag y mae wedi gwneud hyd yn hyn, a dyna pam yr wyf yn croesawu argymhellion y Pwyllgor Cyllid. Gwnaethom goladu, gyda chymorth y Llywodraeth, yr holl wahanol eitemau—y prif grwpiau gwariant, y meysydd rhaglenni gwariant, y camau gweithredu, y gyllideb, y BELs, llinellau gwariant y gyllideb—yn wir, oddeutu 7,000 ohonyn nhw, neu rywbeth tebyg. Dylai fod wedi bod yn ffeil goch—ffeil las oedd hi. Gallai fod yn llyfr coch, efallai. Ond ni fyddwch yn dod o hyd i hyn yn unrhyw le ar hyn o bryd. Dylai hyn gael ei roi i bob Aelod Cynulliad, y gwrthbleidiau a’r pleidiau sy'n llywodraethu, er mwyn i chi allu edrych drwy bob un o'r llinellau gwariant cyllideb unigol. Fel arall, ni allwn wneud ein gwaith hyd eithaf ein gallu.
Edrychaf ymlaen yn arbennig, fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet—ac, yn wir, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid—rydym yn byw mewn cyfnod heriol tu hwnt, lle mae galw cynyddol, cyfyngiadau cyllidol enfawr, a chyfleoedd o ran technoleg newydd megis data mawr, er enghraifft. Mae angen i ni edrych ar greu fframwaith cyllidebol tymor hirach i gyrff y sector cyhoeddus sy'n dibynnu ar y gyllideb. Felly, rwy’n credu bod cyllideb tair blynedd yn rhywbeth sy'n werth ei chroesawu. Ond yn sicr, mae angen i’r wybodaeth fod ar gael i ni ar ffurf fwy tryloyw nag sydd ar gael ar hyn o bryd, a dylem ni edrych ar arloesedd ehangach o ran sut yr ydym ni’n gosod y gyllideb.
Dywedir mai newyddiaduraeth yw drafft cyntaf hanes. Mae prinder newyddiaduraeth yng Nghymru. Efallai cyllideb Cymru, mewn gwirionedd, yw'r drafft cyntaf, oherwydd pwysigrwydd canolog Llywodraeth Cymru wrth lunio ein dyfodol fel cenedl. Hanner can mlynedd yn ôl yn yr Unol Daleithiau, roedden nhw’n arloesol wrth lunio’r gyllideb drwy system cyllidebu rhaglenni, ac mae hyn mewn gwirionedd yn ymwneud ag argymhelliad cyntaf y Pwyllgor Cyllid. Ynghyd â ffigurau gwariant, dylai fod gennym ffigurau ar yr hyn yr ydym yn ceisio’i gyflawni, ar ganlyniadau. Maen nhw’n asio’r ddau. Gwnaeth Robert McNamara, yr Ysgrifennydd Amddiffyn, rai pethau na fyddwn i’n cytuno â nhw, ond gwnaeth rai pethau da hefyd, ac mewn gwirionedd cafodd dipyn o dröedigaeth Ddamascaidd erbyn y diwedd. Ond un o'r pethau gwych a wnaeth oedd dweud, 'Yr unig ffordd y gall y Gyngres farnu cyllideb mewn gwirionedd yw cael y data ar fewnbynnau ac allbynnau wedi’u nodi ar yr un pryd'. Mae cyfeiriad, rwy’n credu, yn un o adroddiadau'r pwyllgor, at y grant amddifadedd disgyblion—hollol ganmoladwy o ran ei amcanion, ond a yw’n cyflawni’r amcanion hynny a sut yr ydym ni’n gwerthuso gwerth am arian mewn gwirionedd? Unwaith eto, efallai bod ffordd wahanol y gallwn ei hystyried i lunio’r gyllideb yn ei chyfanrwydd. Rydym ni’n trafod symud i ffwrdd oddi wrth Lywodraeth seilo, onid ydym? Rydym ni wedi siarad am Lywodraeth gydgysylltiedig ac ati am ddegawd a mwy. Eto i gyd, onid yw hyn yn gofeb i feddylfryd seilo? Gwneir y cyfan ar sail adrannol.
A fyddai'n bosibl llunio cyllideb drawsadrannol lle mae gennym mewn gwirionedd brif grwpiau gwariant sy’n ymwneud ag arloesi, sy'n edrych ar greu cronfa arloesi sy'n symud ar draws yr holl adrannau? A oes modd i ni edrych ar feysydd eraill megis atal, sydd hefyd yn cael ei grybwyll yn adroddiad y Pwyllgor Cyllid? Rydym ni i gyd yn gwybod hyn, onid ydym, bod buddsoddi mewn gwirionedd mewn ymyrraeth blynyddoedd cynnar i blant a phobl ifanc yn arbed arian i ni yn yr hirdymor, yn sicr yn y gwasanaeth iechyd, fel y cyfeirir ato yn adroddiad y Pwyllgor Cyllid? Pam nad oes gennym ni ddulliau atal yn un o'n prif grwpiau gwariant, yn hytrach na’r pwyslais adrannol sydd gennym?
Croesawaf y ffaith ein bod ni, trwy ein trafodaethau, yn edrych ar gyllideb gyfranogol, sy’n cynnwys dinasyddion, yn ymgysylltu â defnyddwyr, yn cyd-gynhyrchu—gair rwy’n credu y ceisiodd Leighton Andrews ei wahardd. Ond yn y pen draw, os ydym yn mynd i gyflawni mwy gyda phunt y trethdalwyr, ni allwn wneud hynny heblaw trwy ddenu pobl eraill mewn gwirionedd, dinasyddion, cwmnïau a sectorau i gyd-gyflwyno rhai o'n hamcanion ni hefyd.
Felly, byddwn i’n ein hannog ni i edrych o’r newydd ar y ffordd yr ydym yn mynd ati i osod y gyllideb ar hyn o bryd, ac i gynnwys nid dim ond Aelodau eraill yn y lle hwn ond y dinasyddion hefyd. Byddem ni’n hoffi gweld yn y gyllideb derfynol, yn enwedig fel y cyfeirir ato yn un o adroddiadau'r pwyllgor, ac fel y mae Simon Thomas eisoes wedi codi, y mater o gyllid cyfalaf ar gyfer llifogydd ac ardrethi busnes yn sicr. Rydym ni wedi cyflwyno dadl lawer gwaith, rwy’n credu, am ryddhad ychwanegol, yn enwedig yn sgil yr ailbrisio. O ran tai, a allem ni edrych, fel y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud, ar dai modiwlaidd fel modd o gyflymu datblygiad tai? Yn olaf, o ran trafnidiaeth leol—o weld pobl ar gyfryngau cymdeithasol ledled Cymru yn cwyno am y gorlenwi ar ein trenau a’r problemau gyda gwasanaethau bysiau lleol mewn rhai rhannau o Gymru—a oes modd i ni wneud hynny’n flaenoriaeth wrth i ni symud oddi wrth y gyllideb ddrafft hon i’r datganiad ar y gyllideb derfynol?