Part of the debate – Senedd Cymru am 5:05 pm ar 6 Rhagfyr 2016.
Mae’r Aelod yn gwneud pwynt diddorol, sef bod llawer o wledydd eraill y Gymanwlad, er enghraifft, a gwledydd ffederal yn defnyddio'r broses honno. Ond mae ganddynt fesurau diogelwch yn eu lle, yn enwedig lle mae gwariant ychwanegol dan sylw, ac nid ydych yn mantoli'r gyllideb gydag incwm ychwanegol. Ond bydd e’n cael y cyfle i gyflwyno’r farn honno gan ein bod yn trafod drwy'r Pwyllgor Busnes a thrwy'r Cynulliad ei hun sut yr ydym yn gweithredu golwg newydd ar broses y gyllideb.