Part of the debate – Senedd Cymru am 5:06 pm ar 6 Rhagfyr 2016.
Ie, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda Chadeirydd y Pwyllgor Cyllid ac eraill ar hynny. Rwy'n credu y dylai’r cynnig bod unrhyw newid i linell wariant a fyddai’n cael ei gyflwyno fel cynnig, ar yr un pryd gael gwelliant o ran naill ai cynnydd mewn trethi neu leihad mewn gwariant, a fyddai'n atal hynny. Ond, yn amodol ar hynny, rwy’n meddwl y byddem yn elwa o gael y broses ddemocrataidd honno.
Rwyf hefyd yn ddiolchgar i Simon Thomas a hefyd i Nick Ramsey, y ddau ohonynt wedi bod yn hael gyda'u hamser yn egluro i mi hynodion y broses pennu cyllideb yma, a hefyd i Ysgrifennydd y Cabinet sydd wedi bod yn barod iawn i siarad â’r Pwyllgor Cyllid, ar y ddau Fil yr ydym yn eu hystyried, ac ymlaen i graffu ar y gyllideb hon yr ydym wedi ei gosod o fewn hynny.
Un her arall, rwy’n meddwl, i fy nealltwriaeth i o sut mae'r broses yn gweithio yma, ac efallai i eraill, yw beth yn union yw’r berthynas hon rhwng Plaid Cymru a'r Blaid Lafur. Roeddwn wedi deall mai’r hyn oedd wedi ei gytuno oedd y byddai Plaid Cymru yn caniatáu i'r gyllideb fynd drwodd—rwy'n dal heb fod yn glir o ba un ai ymatal neu gefnogaeth yw hynny—yn gyfnewid am gyfres o newidiadau penodol i'r gyllideb honno a fyddai'n cael eu cytuno gan y Blaid, er enghraifft y £300,000 ar gyfer edrych ar y rheilffordd rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth ac a allwn ddod â’r rheilffordd honno yn ôl. Hyderaf y bydd y Blaid yr un mor awyddus i fonitro sut mae'r arian hwnnw'n cael ei wario, ac yn sicrhau gwerth am arian, ag yr oeddent pan gytunwyd arno yn y lle cyntaf. Ond mae'n ymddangos drwy wneud hynny, eu bod yn caniatáu i gryn dipyn o bethau eraill fynd drwodd yn y gyllideb hon na chawsant unrhyw olwg arnynt ymlaen llaw, ac eto i gyd bellach rywsut maent yn gysylltiedig â nhw. Ac rwy’n teimlo bod araith Adam Price wedi mynd yn eithaf pell tuag at amddiffyn y gyllideb yn ei chyfanrwydd, yn hytrach na dim ond yr elfennau sy’n benodol i Blaid Cymru o fewn y gyllideb. Rwy'n credu y byddem i gyd yn elwa o fwy o eglurder am sut mae’r berthynas honno yn gweithio.
Rwyf hefyd yn credu bod y Pwyllgor Cyllid—rwy'n falch o'r ddogfen yr ydym wedi’i chynhyrchu mewn amser byr iawn. Dydw i ddim yn hollol siŵr o statws y ddogfen honno yn y ddadl hon—cyfeirir ati fel dogfen ategol. Tybed, mewn gwirionedd, pe byddai’r Cynulliad hwn a'r Cyfarfod Llawn yn pleidleisio ar yr argymhellion hynny a fyddent yn cael eu cefnogi gan y Cynulliad cyfan. Rydym wedi cael cytundeb trawsbleidiol yn y pwyllgor, ac rwy’n meddwl y byddai hynny'n cryfhau sefyllfa'r Cynulliad ymhellach yn y broses graffu ar y gyllideb, ac edrychaf ymlaen at glywed Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud wrthym pa rannau, os o gwbl, o'r gyllideb y mae'n mynd i’w diwygio mewn ymateb i'r rheini.
Mae gennym Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ac yn fy marn i, nid oes sicrwydd o hyd a yw hwn yn ddarn effeithiol o ddeddfwriaeth neu a yw’n rhoi arwydd o rinwedd ar nifer o nodau teilwng iawn nad ydynt wedyn yn cael eu gweithredu drwy broses ddyddiol llywodraeth a deddfwriaeth. Felly, edrychaf ymlaen at weld newidiadau a all ddigwydd neu na allant ddigwydd yn y maes hwnnw.
Yn gyffredinol, byddwn yn disgrifio’r gyllideb fel cyllideb ‘ymlaen gan bwyll’—mae llawer o linellau cyllideb lle nad oes newid i'r gwariant. Daeth Ysgrifennydd y Cabinet o hyd i arian ychwanegol ar gyfer iechyd, ac rydym yn cefnogi hynny. Fe’m trawyd fwyaf gan y setliad llywodraeth leol, sy’n ymwneud o leiaf â’r gwariant a welwn wedi’i bennu gan Lywodraeth y DU yn bennaf ar gyfer Lloegr, oherwydd, i mi, ymddengys mai’r maes llywodraeth leol hwnnw sy'n cael y gostyngiadau lleiaf yng Nghymru, o'u cymharu â'r toriadau llym iawn, iawn y mae cynghorau lleol yn Lloegr wedi’u profi. Ac yn sgil hynny iechyd sy’n gweld y toriadau yng Nghymru, ac nid yw’r toriadau hynny i’w gweld yn Lloegr. Rwy'n gwybod bod rhywfaint o hynny yn adlewyrchu’r hyn sy'n digwydd gyda gofal cymdeithasol a'r GIG, ac rwy’n meddwl ei bod yn synhwyrol i'r Llywodraeth ystyried hynny yn y ffordd y mae'n gwneud. Ond, yn gyffredinol, mae’r setliad llywodraeth leol yn edrych yn fregus ar gyfer y dyfodol. Ac yn adroddiad y Pwyllgor Cyllid, rydym yn dweud bod
‘y gyllideb ddrafft eleni yn setliad gwell o lawer na’r disgwyl... dylai sefydliadau fod yn defnyddio'r setliad hwn i baratoi ar gyfer cyfnodau mwy anodd i ddod, roedd y Pwyllgor yn poeni nad yw wedi gweld tystiolaeth fod y gwaith paratoi hwn yn digwydd’.
Ac mae'n dyfynnu yn enwedig y gwasanaeth iechyd a llywodraeth leol. Ond mewn llywodraeth leol, mae gennym etholiadau ym mis Mai, a’r amheuaeth yn anorfod yw y bydd toriadau llym mewn llywodraeth leol a allai gael eu gohirio tan y flwyddyn nesaf. Ac, yn hytrach na chynllunio ar gyfer y gostyngiadau hynny yn awr, mae llywodraeth leol yn canolbwyntio ar arian sefydlu ar gyfer yr etholiadau cyngor ym mis Mai, a byddwn yn gweld gostyngiadau difrifol yn y flwyddyn neu ddwy wedyn a allai yn wir fod wedi'u cynllunio'n well. Ar gyfer y gwasanaeth iechyd, rwy'n siomedig o weld bod y gofyniad statudol hwn gennym ar gyfer cyllidebu tair blynedd, mae’r holl grwpiau buddiant a sefydliadau partner hyn yn dod atom ac yn dweud eu bod yn awyddus i gynllunio ar gyfer y tymor hir ac, eto i gyd, mae nifer o'r sefydliadau iechyd hyn heb osod y cyllidebau tair blynedd hynny mewn gwirionedd, fel sy'n ofynnol yn ôl statud.
Rydym wedi gweld y toriadau sylweddol hyn—rhwng 35 a 40 y cant, yn dibynnu ar ba flwyddyn yr ydych yn edrych arni—i'r gyllideb gyfalaf ar gyfer prosiectau newid hinsawdd. Rwy’n cofio cael fy herio yn eithaf ymosodol gan Carl Sargeant cyn yr etholiad ar sut oedd UKIP eisiau torri’r gyllideb hon, ac eto i gyd mae'r Llywodraeth yn dod yn ôl ac yn y gyllideb gyntaf yn torri dros draean ohoni. Rhaid cyfaddef fod hyn yn achosi penbleth braidd. Holir Ysgrifennydd y Cabinet a dywedir wrtho, 'A dweud y gwir, nid yw hyn yn mynd i effeithio ar nodau neu amcanion newid hinsawdd neu’r hyn y mae'r Llywodraeth yn mynd i’w gyflawni yn y maes hwn.' Os felly, pam oedd yr arian hwn yn cael ei wario ym maes newid hinsawdd, os nad oedd yn ofynnol mewn gwirionedd i fodloni'r nodau hynny? Tybed a fydd y prosiectau cyfalaf newid hinsawdd hyn, fel y gyllideb addysg uwch y llynedd, o bosibl, ac y byddwn yn gweld rhannau sylweddol yn cael eu rhoi yn ôl, yn dilyn yr hyn yr ydym wedi ei ddysgu yn natganiad yr hydref.
Hoffwn gael sicrwydd bod cysylltiad da o ran yr hyn sy'n digwydd o safbwynt effeithlonrwydd ynni a thlodi tanwydd rhwng cynlluniau’r cwmnïau ynni, Nest, a’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, ac yn yr un modd â llywodraeth leol a'i chyfrifoldebau amddiffyn rhag llifogydd. Ac rwy’n meddwl y byddai'n beth da pe baem yn edrych ar y cynlluniau penodol hyn ar sail eu rhinweddau a'u gwneud yn agored i graffu fforensig da, yn hytrach na dim ond oherwydd eu bod yn cael eu disgrifio fel prosiectau newid hinsawdd sy’n cael eu clodfori gan y Llywodraeth fel rhywbeth da yn hollol amlwg neu, yn wir, yn cael eu beirniadu gan eraill fel rhywbeth nad ydynt yn dda. Dylem edrych ar eu rhinweddau, ac rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn, iawn ein bod yn cael y BELs, y llinellau gwariant yn y gyllideb, allan yno yn gynnar. Yn wir, mae’n anfoddhaol cael cyllidebau eang iawn, iawn yn cael eu cyhoeddi ac yna gael gwybod llawer iawn yn ddiweddarach, mewn gwirionedd, fod y darlun yn wahanol iawn, iawn i’r hyn yr oedd yn ymddangos oherwydd yr hyn sy'n digwydd ar y lefel honno. Rwyf o ddifrif yn meddwl y byddai o fudd i'r broses gyllideb gyffredinol, i graffu cyhoeddus ac i ymgysylltiad democrataidd yng Nghymru pe bai’r BELs hynny yn cael eu cyhoeddi ar yr un pryd â'r gyllideb ddrafft, er mwyn i bobl weithio ar gyfer craffu ar y gyllideb yn briodol ac yn effeithiol. Rwy'n ddiolchgar i Ysgrifennydd Cabinet ac am yr amser, Lywydd.