Part of the debate – Senedd Cymru am 5:15 pm ar 6 Rhagfyr 2016.
Nid wyf yn rhannu eich barn. Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud yw, os byddech yn pennu'r cap hwnnw, y byddai’n arwain at brinder nyrsys ar wardiau a phrinder meddygon mewn ysbytai. Y broblem yw bod angen staff asiantaeth arnom. Yr her i Lywodraeth Cymru a'r gwasanaeth iechyd yw cyrraedd sefyllfa lle nad oes angen staff asiantaeth oherwydd bod y gwasanaeth wedi’i staffio’n llawn.
Pam ydych chi, fel y nodwyd gan gyn-Weinidog iechyd, ddwywaith yn fwy tebygol o gael tynnu eich tonsiliau yn Ynys Môn nag yr ydych yn Wrecsam, sydd ill dwy'n rhan o'r un bwrdd iechyd? Pam mae cost llawdriniaeth megis cataractau yn amrywio cymaint rhwng gwahanol ysbytai? Clywsom yn ddiweddar fod cost meddygon locwm yng Nghymru yn fwy na £137 miliwn—cynnydd o £64 miliwn o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Talwyd y cyflog uchaf o £183,000 i locwm y llynedd, yn ôl y papurau newydd. Mae angen system arnom lle’r ydym yn cael mwy o feddygon i mewn, ac rwy’n rhoi fy nghardiau ar y bwrdd fy mod yn credu mewn meddygon teulu cyflogedig.
Pam mae ymyriadau meddygol sy'n gwneud dim daioni i'r claf yn dal i ddigwydd? Mae’r archwilydd cyffredinol wedi sôn am yr arfer hwn, fel y mae NICE. Faint o gleifion dros nos y mae angen i uned mân anafiadau eu gweld iddi gael ei chadw ar agor dros nos? Ar hyn o bryd, yr ateb i hynny yw tri.
Fe wnaethom ni fel pwyllgor yn y Cynulliad graffu ar Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ac Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid i weld pwy sy’n gwneud y gwaith craffu manwl ar wariant bwrdd iechyd, nid o ran cywirdeb a chyfreithlondeb, ond o ran effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd.
Yn gyffredinol, bydd pobl yn cael eu hanghenion iechyd mawr yn ystod 12 i 24 mis olaf eu bywydau, ond gall fod angen gofal cymdeithasol arnynt am hyd at 40 mlynedd, gyda lefel a chymhlethdod y gofal yn cynyddu wrth i bobl heneiddio, ac yn aml yn diweddu gyda phecyn gofal preswyl sy’n gorfod cael ei dalu gan y cyngor lleol. Nid yw’n syndod chwaith bod mwy o anghenion iechyd yn dueddol o fod gan y rhai sy'n byw mewn tai annigonol. Mae iechyd hefyd yn ffordd o fyw. Mae cyfleusterau ymarfer corff sy’n cael eu rhedeg gan awdurdodau lleol, a chynlluniau ffitrwydd, diet a rhoi'r gorau i ysmygu sy’n cael eu rhedeg gan Gymunedau yn Gyntaf i gyd yn helpu i wella iechyd pobl yng Nghymru.
Er bod datganiad yr hydref wedi ychwanegu gwariant cyfalaf ychwanegol at gyllideb Llywodraeth Cymru, yn ôl fy nghyfrifiad i, mewn termau real, mae’n dal heb ein cymryd yn ôl at wariant 2008 hyd yn oed. Byddai gwariant cyfalaf ychwanegol o fudd i economi Cymru. Cofiwch fod y gwariant cyfalaf y galwodd Ed Balls amdano, ac y gwnaeth George Osborne ei ddisgrifio fel dryllio’r adferiad, bellach wedi’i gyflwyno gan Philip Hammond. Mae'n beth braf iawn eu bod bron wedi dysgu.
A gaf i ddweud rhywbeth sy'n ymwneud â'r syniad hwn bod yn rhaid i chi ddal i dorri i wneud cyni ar gyfer i bethau weithio? Na, rydych yn tyfu eich economi. Rydych yn cynyddu eich derbyniadau treth drwy dyfu’r economi. Rydych yn cael mwy o bobl yn gweithio; nid fel sydd gennym ni ar hyn o bryd, pobl yn gweithio oriau cyfyngedig a chontractau dim oriau ac oriau contract tymor byr, ond rydych mewn gwirionedd yn cael pobl yn gweithio'n llawnamser ac rydych yn codi eu cyflogau. Pan fydd hynny'n digwydd, mae’r dreth yn cynyddu ac mae pobl yn y pen draw yn well eu byd. A gaf i ddweud, yn olaf, mae angen gwariant cyfalaf yn daer ar gyfer pethau mor amrywiol ag ysgolion newydd ac amddiffynfeydd rhag llifogydd, er bod y rhai sy’n gwadu bod cynhesu byd-eang yn digwydd yn credu nad oes angen amddiffynfeydd rhag llifogydd ychwanegol arnom.