Part of the debate – Senedd Cymru am 5:18 pm ar 6 Rhagfyr 2016.
Chwe blynedd yn ôl, etifeddodd Llywodraeth y DU a arweiniwyd gan y Ceidwadwyr, economi a oedd ar fin dymchwel, a'r diffyg uchaf yn y gyllideb mewn cyfnod o heddwch yn hanes y DU. Er mwyn adennill hygrededd ariannol a oedd wedi chwalu, roedd yn rhaid gwneud penderfyniadau anodd. Nid yw cyni, a ddiffinnir fel bod heb ddigon o arian, yn ddewis felly. Fel y gŵyr unrhyw ddyledwr, ni allwch ddechrau lleihau dyled nes i wariant ddisgyn islaw incwm. Pe bai’r Trysorlys wedi mynd ar drywydd lleihau diffyg yn gyflymach, byddai toriadau wedi bod yn uwch. Yn y byd ariannol go iawn, mae benthycwyr yn benthyca ond mae’r rhai sy’n rhoi benthyg yn gosod y telerau. Pe bai’r Trysorlys wedi mynd ar drywydd lleihau diffyg is, gellid bod wedi gosod toriadau uwch. Mae'r rhai sy’n datgan fel arall ar y gorau yn twyllo eu hunain, ar y gwaethaf maent yn twyllo’r bobl.
Mae Llywodraeth Cymru yn briodol wedi blaenoriaethu atal ac ymyrraeth gynnar, ond fel y dengys y gyllideb ddrafft hon, mae'n dweud un peth ac yn gwneud peth arall. Er bod ei chyllidebau ar gyfer atal ac ymyrryd yn gynnar ac ar gyfer cymorth y sector gwirfoddol yn allweddol i gyflawni ei pholisïau, ac er eu bod yn cynrychioli dim ond 1.5 y cant o gyllidebau iechyd a llywodraeth leol cyfun, mae’r Llywodraeth Cymru hon wedi eu torri eto i dros £7 miliwn yn is na lefel 2015-16. Yn hytrach na gweithio mewn modd mwy deallus, bydd yr economi ffug hon yn ychwanegu costau ychwanegol at wasanaethau iechyd a llywodraeth leol sawl gwaith yn uwch na'r toriadau cibddall a osodwyd. Naw wfft i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn hyrwyddo cyfranogiad pobl wrth gynllunio a darparu gwasanaethau gofal a chymorth. Naw wfft i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gwneud i gyrff cyhoeddus weithio'n well gyda phobl, gyda chymunedau a gyda'i gilydd, gan gymryd agwedd gydgysylltiedig. A naw wfft i adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru, 'Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus 2015', a oedd yn dweud,
‘mae cydnabyddiaeth gliriach o lawer bellach nad yw dulliau blaenorol wedi gweithio yn ôl y bwriad a bod angen newid radical’,
‘mae'n rhaid i wasanaethau cyhoeddus gael eu darparu fwyfwy nid i bobl, ond gyda phobl... cynnwys pobl wrth gynllunio a darparu gwasanaethau, gan gydnabod cryfderau y bobl eu hunain a theilwra gwasanaethau yn unol â hynny’.
Fel y dywedodd sylfaenydd Byddin yr Iachawdwriaeth, William Booth,
‘Er ei bod yn gwbl briodol achub y dyn neu’r fenyw sydd wedi disgyn i'r môr, mae'n llawer gwell mynd i'r afael â gwraidd problem yr unigolyn ar ben y clogwyn y disgynnodd ohoni.
Eto i gyd, mae’r elusennau Cynhalwyr Cymru, Cyswllt Teulu Cymru ac Anabledd Dysgu Cymru yn gorfod galw ar Lywodraeth Cymru i ailystyried ei phenderfyniad i dorri £5.5 miliwn oddi ar gronfa’r teulu, gan ddweud
‘Ymddengys ei bod wedi gwneud ei phenderfyniad heb ystyried yr effaith y byddai hynny’n ei chael ar y teuluoedd mwyaf agored i niwed sydd â phlant anabl’.
Gan ychwanegu, ymddengys bod y gostyngiad hefyd yn mynd yn groes i bolisi ehangach Llywodraeth Cymru. Mewn cyferbyniad, mae’r cyllid yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi’i gynnal.
Wrth gwrs, mae gan Lywodraeth Lafur Cymru hanes am hyn. Ym mis Medi 2014, pan gyhoeddodd gyllid i gefnogi gwasanaethau cynghori rheng flaen, Cyngor ar Bopeth Cymru a Shelter Cymru, anwybyddodd AdviceUK—sef rhwydwaith cymorth mwyaf y DU ar gyfer canolfannau cyngor annibynnol am ddim, gyda 24 o gyrff sy’n aelodau yng Nghymru—gan wadu ymyrraeth frys a chyflym i bobl mewn argyfwng, a’u cadw ar restrau aros. Dros y flwyddyn ddiwethaf, tro mudiadau fel Anabledd Cymru a chanolfannau cyswllt plant yng Nghymru oedd hi, gan arwain at ganlyniadau gwaeth a mwy costus i bobl a theuluoedd.
Er gwaethaf galwadau gan grŵp cyfeirio anabledd Cymru ar gyfer y gronfa byw'n annibynnol a ddatganolwyd i gael ei gweinyddu yn y sector gwirfoddol gyda’r Alban a Gogledd Iwerddon, mae Llafur wedi rhoi’r gronfa hon i lywodraeth leol. Pan godais bryderon am brinder nyrsys cymwysedig sy'n darparu gofal lliniarol yn y sector gwirfoddol, a nodwyd gan yr elusen Together for Short Lives, cafodd hyn ei wfftio. Digwyddodd hynny hefyd pan dynnais sylw at bryderon a godwyd gan fwrdd cymunedau mwy diogel y gogledd bod gormod yn cael ei wario ar ddatrys problemau camddefnyddio sylweddau a dim digon ar ymyrraeth ac atal, a phan feirniadais y toriad o 10 y cant i gyllideb cefnogi cymunedau a phobl y trydydd sector, gan bwysleisio’r rhan hanfodol y mae’r trydydd sector yn ei chwarae wrth ddarparu gwasanaethau o safon am lai o arian. Mae toriadau o'r fath i gefnogaeth ar lefel llawr gwlad yn peryglu’r gwasanaethau ataliol a chost-effeithiol, a arweinir yn fwy gan ddefnyddwyr, y mae’r trydydd sector yn eu darparu, pan ddylem fod yn trawsnewid gwasanaethau cyhoeddus Cymru drwy wneud cyd-gynhyrchu yn rhan annatod ohonynt.
Yn amlach na pheidio, mae arian yn disgyn dros bobl a chymdogaethau yn hytrach nag yn dyfrio eu gwreiddiau. Mae darparu gwasanaethau gwell yn fwy effeithlon yn golygu cymryd pwerau oddi ar lywodraeth ar lefel leol a chenedlaethol, a'u rhannu gyda'r bobl sy'n byw ac yn gweithio ar y rheng flaen. Os ydych yn ymddiried ynddynt, bydd yn gwella eu bywydau ac yn arbed arian yn y broses.