8. 6. Dadl ar y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2017-18

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:23 pm ar 6 Rhagfyr 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 5:23, 6 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

Byddaf yn cyfeirio at elfennau penodol o'r gyllideb hon mewn cysylltiad ag iechyd. Mae'r cytundeb, wrth gwrs, yn cynrychioli dim ond rhan o'r gyllideb ehangach. Yn y gyllideb ehangach mae rhai penderfyniadau sy'n ymwneud ag iechyd a gofal cymdeithasol y byddem yn gobeithio y byddai Llywodraeth Cymru yn eu hailystyried. Byddem hefyd yn hoffi gweld mwy o arian yn cael ei roi i iechyd, ond rydym yn ymwybodol iawn nad yw’n ymwneud yn unig â faint o arian sy'n cael ei wario ond sut y caiff yr arian ei wario a'i reoli o ddydd i ddydd.

I lefarydd y Ceidwadwyr, a adlewyrchir gan UKIP a’u galwad i ddiogelu cyllidebau iechyd, gadewch i ni edrych ar yr hyn y mae'r Ceidwadwyr wedi ei wneud yn Lloegr. Mae angen i unrhyw un sy'n meddwl bod modd gwella’r gwasanaethau iechyd drwy dorri gofal cymdeithasol, fel sydd wedi’i wneud yno yn ôl pob tebyg, dreulio ychydig mwy o amser yn ystyried y problemau gwirioneddol yr ydym yn eu hwynebu mewn termau real yn y GIG yng Nghymru. Ildiaf.