Part of the debate – Senedd Cymru am 5:56 pm ar 6 Rhagfyr 2016.
Mwynheais y ddadl lefel uchel a gynhaliwyd rhwng Nick Ramsay ac Adam Price ar y dechrau. Byddwn yn dweud, fel myfyriwr israddedig, cefais fy nysgu gan Patrick Minford ac rwy’n cofio’r amser iddo roi ar y bwrdd nifer o hafaliadau mathemategol a dywedodd, ‘Dyma, fy ffrindiau, theori Rolls-Royce am y cyflenwad arian a dyna’r cyfan sydd angen i chi wybod am facro-economeg'. Wel, doeddwn i ddim yn ei deall bryd hynny ac nid wyf yn cytuno â hi yn awr.
Fel cynghorydd, rwyf wedi gweld yr effeithiau uniongyrchol y mae toriadau yn eu cael. Beth sydd wedi digwydd yn fy mhrofiad i yw, rydych yn cael seminar trawsbleidiol, rydych yn eistedd i lawr, rydych yn edrych ar y gyllideb ac mae'n rhaid i chi benderfynu ble mae’r toriadau hynny yn mynd i ddigwydd. Mae'n un o'r pethau mwyaf anodd y gallwch ei wneud. Ar ôl 10 mlynedd fel cynghorydd—eleni yw fy mlwyddyn olaf—byddwn yn dweud nad dyma’r rheswm dros fynd i faes gwleidyddiaeth. Mae’r datganiad hydref gan y DU yn ddiweddar yn dangos nad oes llawer yn dod i gyfeiriad Cymru yn y ffordd honno chwaith.
Felly, mae fy uchelgais ar gyfer cyllideb Cymru yn un sy'n dod â ffyniant a swyddi a thwf i Gymru ac i fy etholwyr yng Nghaerffili, ond mae hynny'n golygu dewisiadau anodd. Mae'n golygu bod yr hyn a ddysgwyd gennym fel cyfle yn costio, a oedd yn fwy o gysyniad micro-economaidd, ac yn rhywbeth y mae'n rhaid inni ymdrin ag ef. Mae'n rhoi llawer o gyfleoedd ar gyfer rhaniadau ymysg pleidiau gwleidyddol, ac rwy’n amau y byddwn yn gweld mwy o hynny. Ond mae’n rhaid i rai o'r dewisiadau hynny fod yn annymunol. Mae angen inni benderfynu beth sydd yn y bocs o ddewisiadau yr ydym yn mynd i'w gwneud.
Felly, rwy'n falch o weld bod y gyllideb ddrafft yn nodi cynlluniau ar gyfer gwerth £6.9 biliwn o gyllid cyfalaf o setliad cyfalaf Llywodraeth Cymru, gan wneud defnydd llawn o bwerau benthyca cyfalaf. O bwysigrwydd mawr i fy etholwyr i yw'r £1.2 biliwn o fargen y ddinas a rennir ar gyfer rhanbarth cyfalaf Caerdydd a gytunwyd mewn egwyddor rhwng Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a'r 10 awdurdod lleol—ac maent yn gweithio mor dda gyda'i gilydd i geisio gwireddu hynny. Ond y mater allweddol ym margen y ddinas fydd y fantais i'r Cymoedd gogleddol, ardaloedd sydd â photensial enfawr. Nid yw bargen y ddinas nad yw'n dod â ffyniant y tu hwnt i fasn Caerffili yn fargen o gwbl. Dyma pam mae’r £734 miliwn o’r fargen a ddyrannwyd i fetro de Cymru mor bwysig a dylid nodi y dylai'r gyfran a ddyrennir o arian Ewrop fwrw ymlaen heb fygythiad, er gwaethaf Brexit. Mae Brexit yn fygythiad mawr i ni.
O ganlyniad i’n cyllideb ni, mae angen system ddibynadwy o gludiant cyhoeddus ar draws y cymoedd, gan gysylltu rhwng cymunedau sydd â chysylltiadau cyfyngedig, ac sy’n galluogi pobl i gael mynediad at waith mewn amrywiaeth o leoliadau ar wahân i Gaerdydd. Felly, rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru wedi dyrannu mwyafrif y cyllid cyfalaf sydd ar gael iddi drwy bennu cynllun cyfalaf pedair blynedd i roi hyder a sicrwydd i'r sector adeiladu, busnesau a buddsoddwyr, oherwydd pan rydym wedi gwneud toriadau mewn llywodraeth leol yn y gorffennol, rydym wedi gweld y sector preifat yn dioddef. Mae'r gyllideb hon yn ymrwymo £369 miliwn i’r metro, a bydd hyn, fe dybiaf, o leiaf yn rhannol dalu cost trydaneiddio rheilffyrdd y Cymoedd. Felly, hoffwn pe bai Ysgrifennydd y Cabinet yn egluro a yw'n gwybod a yw Llywodraeth y DU yn dal i ymrwymo i'w haddewid o £125 miliwn o gyllid ar gyfer trydaneiddio rheilffyrdd y Cymoedd i sicrhau bod hyn yn mynd yn ei flaen. Pan ddaeth ei gydweithiwr, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith, gerbron y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau y mis diwethaf, dywedodd fod y metro yn cael ei adeiladu ar sylfeini hyblyg ac y byddai'n ddarn parhaus o waith tebyg i'r hyn a ddigwyddodd ym Manceinion. Felly, byddwn hefyd yn gofyn a fydd hyn yn darparu hyblygrwydd yn nyraniad y gyllideb fel y gallwn fodloni gofynion newydd pan fyddant yn codi. Hoffwn i, er enghraifft, weld arhosfan metro yn y ganolfan gofal critigol arbenigol newydd arfaethedig yng Nghwmbrân, ac mae Nick Ramsay eisoes wedi sôn am ei ddewis ef o ran arosfannau mewn mannau eraill. Hoffwn i weld y gyllideb yn ddigon hyblyg i gynnwys hynny.
Mae'n dda gweld bod Llywodraeth Cymru yn cadw at ei rhan o fargen dinas Caerdydd ac yn benderfynol o weld y prosiect uchelgeisiol hwn drwy gyfnod economaidd ansicr. Byddwn i'n dweud fy hun, yn fy mlwyddyn ddiwethaf mewn llywodraeth leol fel cynghorydd, y byddaf yn ei chael ychydig yn haws y tro hwn nag yn y gorffennol. Mae'n hanfodol nawr ein bod yn gweithio gyda'n gilydd i gyflawni hyn gan na allwn ddibynnu mwyach ar arian yr Undeb Ewropeaidd yn y tymor hwy.