<p>Cylchffordd Cymru</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 7 Rhagfyr 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 1:30, 7 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

Ydw, rwy’n cydnabod y brwdfrydedd a’r gefnogaeth i’r prosiect. Ac wrth gwrs, rwyf yr un mor rhwystredig â llawer o bobl o ran pa mor hir y mae’r prosiect yn ei gymryd. Ond mae’n bwysig sylweddoli bod hwn yn brosiect a ariennir yn breifat, ac nad y Llywodraeth sy’n pennu cyflymder y prosiect, ac nad yw ychwaith o dan reolaeth Llywodraeth Cymru. Felly, hoffwn weld pwynt penderfynu clir gan y cwmni cyn gynted â phosibl yn y flwyddyn newydd. Gallaf ddweud wrth yr Aelodau fod fy swyddogion, dros yr ychydig fisoedd diwethaf, wedi bod yn gweithio gyda’r cwmni, gan gyfarfod â hwy yn wythnosol, a bod y cwmni wedi cadarnhau bod ganddo bopeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ofyn ganddo.