Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 7 Rhagfyr 2016.
Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf fi annog yr holl gymorth priodol gan Lywodraeth Cymru? Bydd hwn yn brosiect gwych i Flaenau Gwent, i Went yn gyffredinol ac i Gymru gyfan, gan y byddai’r potensial marchnata’n enfawr. Rydych chi wedi dewis camp hynod o boblogaidd ac arloesol, y math o ddelwedd rydym am ei chyflwyno—fod Cymru yn agored i fusnes newydd a chyffrous.