Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 7 Rhagfyr 2016.
Rwy’n cytuno. Mae’r potensial o ran hysbysebu neu gyfwerth hysbysebu mewn perthynas â digwyddiadau mawr yn enfawr. Pan fyddwn yn cynnal digwyddiadau mawr, megis rygbi, megis cyfres y Lludw, gwyddom fod ffocws y byd ar Gaerdydd, ac ar Gymru, yn anferth. Ac ar gyfer ardal megis y Cymoedd, byddai’n hynod o werthfawr pe bai llu o ddigwyddiadau mawr yn digwydd yno’n rheolaidd, yn ei hyrwyddo, nid yn unig fel lle deniadol i ymweld ag ef, ond fel lle deniadol i fyw a gweithio yno.