<p>Cylchffordd Cymru</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 7 Rhagfyr 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 1:33, 7 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

A gaf fi gydnabod diddordeb Ysgrifennydd y Cabinet yn y prosiect hwn, a’r cymorth a roddodd i sicrhau ei fod yn cyrraedd y pwynt hwn, ac ailbwysleisio’r pwynt a wnaeth Lynne Neagle fod yna gefnogaeth ar draws y Siambr—gan gynnwys fy mhlaid fy hun yn bendant—i’r prosiect hwn?

A wnaiff gydnabod hefyd fod y warant a geisir yn warant fasnachol y byddai’r Llywodraeth yn cael ei thalu amdani, ac mai mewn amgylchiadau eithriadol yn unig y byddai hawlio arni, lle y byddai’r holl asedau yr argymhellwyd eu hadeiladu ar y safle wedi eu cwblhau, maes o law, ac y byddai’n warant ar £190 miliwn yn unig mewn prosiect gwerth £380 miliwn, felly byddai sicrwydd o 100 y cant, a risg o 50 y cant? O ystyried ei bod yn warant fasnachol y byddai’r Llywodraeth yn cael £3 miliwn y flwyddyn amdani, mae hynny, i raddau helaeth, yn gwrthbwyso’r risg y gofynnir i’r Llywodraeth ei chymryd. Ac felly, gofynnaf i Ysgrifennydd y Cabinet hwyluso hynny gymaint ag y bo modd.