Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 7 Rhagfyr 2016.
Ac mae’r Aelod yn iawn, yn gyffredinol, yn ei honiadau. Credaf fod y ffigurau wedi codi ychydig, ond serch hynny, byddai’r enillion gwirioneddol, cyhyd ag y bo’r gylchffordd yn gweithredu am y cyfnod llawn, yn darparu enillion o oddeutu £2.5 miliwn o ran y gymhareb cost a budd i’r trethdalwr. Felly, mae’r Aelod yn hollol gywir yn hynny o beth.
Gan ystyried yr hyn a ddywedodd Aelodau eraill, pan oeddwn yn Ddirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, rwy’n credu efallai fy mod wedi cynnal digwyddiad, ond yn sicr fe siaradais mewn digwyddiad, ar ran Cylchffordd Cymru, gan sôn am werth cyfleusterau o’r math hwn a digwyddiadau mawr yn y sectorau modurol a chwaraeon eithafol yn hyrwyddo Cymru. O ran chwaraeon eithafol, maent yn chwarae rôl bwysig iawn yn hyrwyddo 2016 fel y Flwyddyn Antur a byddant yn gwneud hynny y flwyddyn nesaf hefyd, fel Blwyddyn y Chwedlau ac yn 2018 yn ystod Blwyddyn y Môr.