Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 7 Rhagfyr 2016.
O ystyried bod Llywodraeth Cymru wedi addo torri trethi ar gyfer busnesau bach ac yn lle hynny wedi ymestyn y cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach, a oedd wedi bod yn gynllun dros dro, disgrifiwyd hyn gan Ffederasiwn Busnesau Bach Gogledd Cymru, sy’n cynrychioli busnesau o Arfon ar draws y rhanbarth fel y gwyddoch, yn gwbl gamarweiniol a dyma’r ffurf waethaf ar sbinddoctora.
Sut felly rydych yn ymateb i’r £16 miliwn ychwanegol a gyhoeddwyd yn natganiad yr hydref i Lywodraeth Cymru ei wario ar ardrethi busnes? Credaf eu bod wedi dweud eu bod yn parhau i fod yn faich ariannol enfawr ar fusnesau bach. Ar hyn o bryd, nid yw gwerth ardrethol pob busnes sy’n talu ardrethi busnes yng Nghymru yn ddim ond hanner y gwerth yn Lloegr, ac nid yw maint y cwmni, yn wahanol i Loegr a’r Alban, yn cael ei ystyried, gan roi cwmnïau llai o dan anfantais uniongyrchol. Felly, sut y byddwch yn ymgysylltu â busnesau bach yn Arfon a chynrychiolwyr eu sector, megis y Ffederasiwn Busnesau Bach, i fynd i’r afael â’r pryderon hynny?