Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 7 Rhagfyr 2016.
Hoffwn ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn a dweud mai un unigolyn yn y Ffederasiwn Busnesau Bach oedd hynny, a bod llawer o bobl eraill yn y Ffederasiwn Busnesau Bach yng ngogledd Cymru wedi croesawu toriad Llywodraeth Cymru i drethi busnes ar gyfer busnesau bach a chanolig yn Arfon. Mae’r Aelod yn crybwyll y cynllun yn Lloegr, ond mae hwnnw’n gymwys i lawer llai o fusnesau. Bydd ein cynllun yn gymwys i oddeutu 70 y cant o fusnesau ac ni fydd oddeutu hanner yr holl fusnesau cymwys yn talu unrhyw ardrethi o gwbl. O ran y cymorth a roddwn i fusnesau yn Arfon, credaf ei bod yn eithaf amlwg fod ein cymorth yn dwyn ffrwyth, gan fod nifer y mentrau sy’n gweithredu yng Ngwynedd wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed, gyda 15,786 o fusnesau’n gweithredu yn y rhan honno o Gymru. Caiff hynny ei adlewyrchu ledled gogledd Cymru hefyd, lle y mae’r nifer uchaf erioed o fusnesau’n gweithredu ar hyn o bryd—bron i 62,000.