Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 7 Rhagfyr 2016.
Diolch, Lywydd. Gan droi at faterion mwy cyffredin, ond pwysig ynddynt eu hunain serch hynny, a all Ysgrifennydd y Cabinet roi gwybod i ni pwy sy’n gyfrifol am glirio ysbwriel oddi ar y cefnffyrdd yng Nghymru?