<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 7 Rhagfyr 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:52, 7 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

Rwyf o blaid optimistiaeth a brwdfrydedd ac angerdd. Edmygaf Ysgrifennydd y Cabinet yn hynny o beth, ond mae’n rhaid i ni atgoffa ein hunain ein bod ar 71.3 y cant o gyfartaledd y DU yn barod. Y cam cyntaf i wella ein perfformiad economaidd ofnadwy yw ystyried realiti ein sefyllfa ar hyn o bryd.

Wrth iddo ddyfeisio ei strategaeth economaidd newydd, a gaf fi ei annog i ddarllen adroddiad diweddar Cydffederasiwn Diwydiant Prydain ar ddatgloi twf rhanbarthol? Un o’r meysydd allweddol y maent yn canolbwyntio arno yw mater seilwaith trafnidiaeth a’i rôl gwbl allweddol. A gaf fi ddweud wrtho fy mod yn credu bod hyn yn un o’r cyfyngiadau allweddol ar ein perfformiad economaidd ar hyn o bryd? Nid oes ond angen darllen y cyfryngau cymdeithasol yn ddyddiol ar hyn o bryd i weld bod ein seilwaith trafnidiaeth yn gwegian: teithwyr ar Drenau Arriva Cymru yn cwyno am brofiadau ofnadwy. Dywedodd Jac Larner, am 8.58 a.m. y bore yma,

Am yr ail dro eleni mae fy nhrên ar dân. Mae’n debyg ei bod yn dda fod hynny ond wedi digwydd ddwywaith, ond teimlaf fod hynny’n dal yn rhy aml.

Leon Williams: Y bore yma. Yn llythrennol, heb orliwio, dyma’r tro cyntaf mewn 11 mis i mi gael sedd wrth gymudo i Gastell-nedd Port Talbot.

Hannah, ddoe:

Mae rhywun wedi llewygu eto ar y trên 07.42 rhwng Pen-y-bont ar Ogwr ac Aberdâr.

A fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn derbyn bod hwn bellach yn argyfwng cenedlaethol a bod angen i Lywodraeth Cymru weithredu ar frys? Mae hyn yn gwbl annerbyniol. Ni ddylai unrhyw un mewn unrhyw wlad oddef hyn.