<p>Gwella Gwasanaethau Rheilffyrdd</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 7 Rhagfyr 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:00, 7 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

Gobeithiaf y byddai’r Aelod yn cydnabod nad yw tanariannu hanesyddol y rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru, fel yr amlinellais i Adam Price, wedi bod o gymorth, yn enwedig ar yr adeg hon o’r flwyddyn. Yn wir, nid yw’n rhywbeth newydd; yn hanesyddol, rydym wedi gwneud yn waeth yn ystod misoedd y gaeaf gan na wnaed y buddsoddiad lle y dylid ei wneud. O ran yr hyn y gallwn ni fel Llywodraeth—nid ydym yn rheoli’r fasnachfraint eto; daw hynny gyda’r fasnachfraint newydd—ei wneud ar hyn o bryd, nifer cyfyngedig iawn o gerbydau diesel a geir. Mae arnaf ofn na chlywais y manylion ynglŷn â ble y cred yr Aelod y gall fod cerbydau diesel sy’n bodoli eisoes y gellid eu defnyddio, ond yn sicr, os gall roi’r wybodaeth i mi, byddaf yn ystyried hynny. Ychydig iawn o gerbydau diesel sydd ar gael ar hyn o bryd, ond fel y soniais yn gynharach, rydym yn trafod gyda’r diwydiant rheilffyrdd i geisio dod o hyd i atebion a allai ddarparu’r capasiti ychwanegol yn y tymor byr wrth i ni agosáu at y fasnachfraint newydd. Fel rwyf wedi’i ddweud, nid oes amheuaeth fod dail yn disgyn yn yr wythnosau diwethaf wedi effeithio’n andwyol ar gapasiti rhai o reilffyrdd y Cymoedd, gan gynnwys rheilffordd Glyn Ebwy, ac mae hynny’n annerbyniol.