Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 7 Rhagfyr 2016.
Rydym yn cyfarfod eto, Weinidog y Cabinet. Mae ‘Symud Cymru Ymlaen’ yn cynnwys cynlluniau ar gyfer trafnidiaeth yng Nghymru, a’r metro yw’r prosiect mwyaf cynhwysfawr ac uchelgeisiol a gynigiwyd erioed gan Lywodraeth Cymru. Rwy’n sicr y byddai’r Siambr gyfan yn eich canmol am eich gweledigaeth yn hyn o beth, ond a wnaiff y Prif Weinidog ddweud wrthym pa bryd y bydd y gwaith sylweddol sydd ynghlwm wrth y prosiect hwn—[Torri ar draws.] Mae’n ddrwg gennyf. Rwy’n ymddiheuro; nid ydych yno eto, ond efallai yn y dyfodol, syr. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym pa bryd y bydd y gwaith sylweddol sydd ynghlwm wrth y prosiect yn dechrau mewn gwirionedd?