Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 7 Rhagfyr 2016.
Mae’r Aelod yn hollol iawn fod angen i ni sicrhau bod y rhwydwaith trafnidiaeth yn gwbl integredig. Ddoe, amlinellais i Llyr Huws Gruffydd sut rydym yn cefnogi rhwydwaith bysiau gogledd-ddwyrain Cymru yn yr ardal lle y bydd y metro’n dechrau o ran yr ymagwedd sydd angen ei mabwysiadu ers i GHA Coaches fynd i’r wal. Mae’n gwbl hanfodol ein bod yn sefydlogi’r rhwydwaith bysiau yn y tymor byr wrth i ni gynllunio’r weledigaeth ar gyfer metro gogledd Cymru. Mae £50 miliwn o bunnoedd wedi ei sicrhau ar gyfer datblygu’r metro, ac mae’r gwaith cwmpasu cychwynnol ar gyfer y gwaith wedi canolbwyntio ar gysyniad o ganolfan integredig yn ardal Glannau Dyfrdwy a fyddai’n cwmpasu gwelliannau, fel yr amlinellwyd gan yr Aelod, i reilffyrdd, bysiau, teithio llesol a ffyrdd. Yn ogystal â’r gwaith o ddatblygu metro gogledd Cymru, a fydd, wrth gwrs, yn croesi’r ffin, rydym wedi ymrwymo i ymgynghori â’r cyhoedd yn y flwyddyn newydd ynglŷn â gwaith uwchraddio sylweddol ar yr A494/A55 i liniaru tagfeydd ar y llwybr hwnnw.