<p>Busnesau yn Ynys Môn</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 7 Rhagfyr 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:06, 7 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

Bydd y Gweinidog yn ymwybodol, rwy’n siŵr, o gyhoeddiad NatWest ynglŷn â’u bwriad i gau tair cangen ar Ynys Môn fis Mehefin nesaf yng Nghaergybi, yn Amlwch ac ym Mhorthaethwy, gan adael ond un banc yn unig i fod ar agor am oriau cyfyngedig yn Amlwch, a heb fanc o gwbl yn nhref ffyniannus Porthaethwy. Mae hyn yn dilyn nifer o fanciau’n cau yn ddiweddar, gan adael rhannau helaeth o’r ynys heb unrhyw wasanaethau bancio. Bydd y Gweinidog yn gwybod pa mor bwysig yw’r gwasanaethau hyn i fusnesau. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymuno â mi i gondemnio’r modd y mae banciau mawr y stryd fawr i’w gweld yn cefnu ar rannau helaeth o Gymru, ac a wnaiff ymrwymo i wneud popeth yn ei allu, gan weithio gyda Llywodraeth y DU, i geisio atal rhagor o’r gwasanaethau hanfodol hyn rhag cael eu colli?