<p>Datganiad yr Hydref y Canghellor</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 7 Rhagfyr 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 2:09, 7 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Bydd datganiad yr hydref yn darparu dros £400 miliwn o gyllid cyfalaf ychwanegol dros y pum mlynedd nesaf ar gyfer prosiectau seilwaith yng Nghymru. Gwyddom fod pryderon wedi bod ynghylch cyllid ar gyfer y metro, yn enwedig yn sgil y refferendwm ar Ewrop. Pa gynlluniau sydd gennych i ddefnyddio peth o’r arian ychwanegol hwn i gefnogi’r metro, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig fel fy etholaeth i, lle y gellid cysylltu ardaloedd pellennig fel Mynwy â’r ganolfan drafnidiaeth arfaethedig yn y Celtic Manor?