<p>Datganiad yr Hydref y Canghellor</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 7 Rhagfyr 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:10, 7 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

Mae gennyf gryn ddiddordeb yn y ganolfan drafnidiaeth arfaethedig yn y Celtic Manor, yn enwedig o ystyried datblygiad y ganolfan gynadledda yno a’i harwyddocâd cynyddol fel cyrchfan bwysig yn ne-ddwyrain Cymru. O ran costau ac adnoddau mewn perthynas â’r prosiect metro yn ei gyfanrwydd, rydym yn disgwyl y bydd bob ceiniog a oedd i ddod o Ewrop yn dod gan Lywodraeth y DU pan fyddwn yn gadael yr UE. Byddwn yn sicrhau bod Llywodraeth y DU yn cadw at y gwarantau a roddwyd i ni. Mae hwn yn brosiect hynod o uchelgeisiol. Mae wedi’i gynllunio i fod yn brosiect deinamig hefyd, a all dyfu ac ehangu. Yn sicr, o ran y ganolfan drafnidiaeth arfaethedig yn y Celtic Manor, byddwn yn awyddus iawn i edrych ar y datblygiad arfaethedig hwn.