Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 7 Rhagfyr 2016.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Bydd yr awtomeiddio a’r roboteg sydd i ddod yn darparu cryn gyfleoedd, ond bygythiadau gwirioneddol hefyd i swyddi yng Nghymru. Nos Lun yn Lerpwl, rhoddodd llywodraethwr Banc Lloegr, Mark Carney, araith lle y dywedodd y gallai oddeutu 15 miliwn o swyddi gael eu heffeithio gan awtomeiddio. Gan ddefnyddio’r fformiwla a ddefnyddiwyd gan Fanc Lloegr i gyfrifo’r ffigur hwnnw, rwyf wedi cyfrifo y gallai oddeutu 700,000 o swyddi yng Nghymru fod mewn perygl o ganlyniad i awtomeiddio. Cyfrifiad bras yw hwn, ond a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymrwymo i wneud astudiaeth briodol o’r effaith er mwyn deall y bygythiad, ond hefyd y cyfle gwirioneddol a ddaw o’r pedwerydd chwyldro diwydiannol hwn?