<p>Adeiladau Rhestredig Gradd I</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 7 Rhagfyr 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:13, 7 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

Gall awdurdodau lleol lunio rhestrau lleol o ddiddordeb hanesyddol, ond o ran yr hyn y mae Cadw yn ei wneud—a chredaf ei bod yn bwysig i ni gydnabod bod Llywodraeth Cymru yno i gefnogi’r amgylchedd hanesyddol, o ran swyddogaethau statudol a swyddogaethau anstatudol—rydym yn arwain ar dair menter allweddol. Un ohonynt yw’r cynllun gweithredu ar gyfer mannau addoli, un arall yw’r gefnogaeth y mae Cadw yn ei chynnig i awdurdodau lleol i baratoi cofrestri o adeiladau mewn perygl, sy’n gwbl hanfodol yn fy marn i o ystyried bod lleoedd megis Tabernacl Treforys yn etholaeth fy ffrind wedi cael arian yn ddiweddar i arfarnu opsiynau ar gyfer yr adeilad, sy’n gymorth i gynllunio a diogelu ei ddyfodol. Ni fyddai wedi bod yn bosibl cyflawni hynny heb gydweithio agos â’r awdurdod lleol. Yn drydydd, rydym yn gwella diogelwch adeiladau rhestredig gradd I, a chapeli o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn arbennig, drwy ddiogelwch y gyfraith. Mae Deddf yr amgylchedd hanesyddol 2016 wedi ei chynllunio i wella diogelwch adeiladau rhestredig gradd I, ac yn wir, adeiladau gradd II a gradd II* hefyd.