<p>Anhwylderau Cysgu nad ydynt yn Ymwneud ag Anadlu</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 7 Rhagfyr 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 2:22, 7 Rhagfyr 2016

Diolch am eich ateb. Fel yr ŷch chi’n dweud, fel y mae pethau’n sefyll ar hyn o bryd, mae’r mwyafrif o anhwylderau cysgu yn cael eu trin ar draws adrannau o fewn ein hysbytai. Nid oes yna adran neu ganolfan arbenigol ar gyfer anhwylderau cysgu. Mae dioddefwyr yn cwyno am fynediad at ddiagnosis ac at driniaeth ar gyfer anhwylderau cysgu nad ydynt o ganlyniad i resymau anadlol, ac mi gyfeirioch at anhwylderau sy’n deillio o gyflyrau niwrolegol. Mae diagnosis yng Nghymru yn isel ofnadwy ar gyfer cyflyrau fel narcolepsi. A oes gennych chi gynlluniau i wella diagnosis a thriniaeth ar gyfer cyflyrau o’r fath yng Nghymru a beth yw’r ‘prospect’ o ddatblygu canolfan arbenigol benodol ar gyfer yr ystod ehangach yna o anhwylderau cysgu yma yng Nghymru?