<p>Anhwylderau Cysgu nad ydynt yn Ymwneud ag Anadlu</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 7 Rhagfyr 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:23, 7 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch am y cwestiwn dilynol. Rwy’n siŵr y bydd pob un ohonom ar ryw adeg yn ein bywydau yn dioddef rhyw fath o her gyda’n cwsg. Mae’r rhan fwyaf ohonynt, fodd bynnag, yn pasio, fel y gwyddoch rwy’n siŵr, gyda llond tŷ o blant ifanc. Ond o ran yr anhwylderau penodol a’r heriau ehangach, gwyddom fod narcolepsi yn her arbennig, nid yn unig mewn perthynas â chwsg ond mewn bywyd bob dydd. Nid oes iachâd ar hyn o bryd; mae’n ymwneud â rheoli’r cyflwr yn llwyddiannus. Mae gennym ganolfan drydyddol ym mwrdd iechyd prifysgol Aneurin Bevan, ond rwyf wedi gofyn i’r grŵp gweithredu a chyflawni ar gyflyrau niwrolegol ystyried faint mwy o bwyslais y gallem ei roi ar y rhai yr effeithir arnynt gan anhwylderau cysgu a achosir gan ffactorau niwrolegol. Felly, mae gwaith ar y gweill ac rydym yn gwybod ei fod yn faes lle y mae angen i ni ehangu ein dealltwriaeth, ac yna deall ble a sut y gallwn reoli’r cyflwr a helpu a chefnogi pobl yn y ffordd fwyaf effeithiol posibl.