<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 7 Rhagfyr 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 2:31, 7 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

Wel, mae’n anodd iawn rhoi ateb penodol yn nhermau punnoedd a cheiniogau o ran yr hyn rydym yn ei wario ar yr agenda hon, gan ei bod mor eang. Mae ein dull o weithredu yn ystyried teithio llesol, er enghraifft, felly mae’r holl waith rydym yn ei wneud drwy’r adran y mae Ken Skates yn ei harwain, yn ogystal â’r gwaith rydym yn ei wneud o ran ein cefnogaeth i iechyd y cyhoedd yn fwy cyffredinol—ein gwaith drwy’r rhwydwaith ysgolion iach, er enghraifft. Felly, mae’n anodd iawn rhoi ffigur penodol ar hyn, o ystyried y ffaith fod y gwaith rydym yn ei wneud yn amrywio mewn ysgolion, drwy awdurdodau lleol, a thrwy’r GIG, ac agweddau ar y GIG megis ein rhaglenni ymarfer corff, ac yn y blaen. Felly, o ran rhoi ateb yn nhermau punnoedd a cheiniogau, mae’n anodd iawn dweud.