<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 7 Rhagfyr 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:32, 7 Rhagfyr 2016

Diolch yn fawr iawn, Weinidog, yn hytrach nag Ysgrifennydd Cabinet. O ystyried y gost o daclo a rhoi triniaeth i bobl oherwydd cyflyrau wedi eu hachosi gan ordewdra, o ystyried y gost i’r gwasanaeth iechyd, nid yw faint bynnag sy’n cael ei wario gan y Llywodraeth ddim yn ddigon, ac rwy’n gobeithio y bydd y Gweinidog yn cytuno â hynny. Os ydy rhywun am roi’r gorau i ysmygu, mae yna ystod eang o gefnogaeth sydd ar gael: cynnyrch nicotin, grwpiau cefnogaeth, mae yna hefyd drethiant trwm, wrth gwrs, ar gynnyrch, a gwaharddiadau ar hysbysebu, ac yn y blaen. Gan ein bod ni’n gallu gweld bod camau felly wedi gweithio—wedi cymryd amser, ond wedi gweithio—a bod hynny’n cael ei adlewyrchu yn y niferoedd sydd yn ysmygu erbyn hyn, a ydy’r Gweinidog yn cytuno efo fi bod angen cymryd agwedd debyg rŵan wrth i ni geisio taclo yr her fawr arall o ran iechyd cyhoeddus, sef gordewdra?