Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 7 Rhagfyr 2016.
Wel, yn sicr mae angen iddynt wella’r gwasanaeth yn eithaf sylweddol. A gaf fi dynnu eich sylw, a sylw’r Siambr, at fy etholwr ac etholwr y Llywydd hefyd, Sheila Joseff, mam i fachgen 15 oed a gyfeiriwyd at orthodontydd am ymgynghoriad ar gyfer bresys? Dywedwyd wrtho, ag yntau’n byw yng Ngheredigion, y buasai’n rhaid iddo fod ar restr aros o dair blynedd i ffitio’r bresys, tra bod y rhestr aros ym Mhowys yn 8 wythnos. Penderfynodd wario £3,000 i gael triniaeth breifat gan na allai aros iddo fod yn oedolyn cyn iddo gael bresys. Erbyn hyn mae’n rhaid iddi deithio taith ddwy ffordd i Gaerfyrddin bob ychydig wythnosau yn syml er mwyn mynychu apwyntiad pum munud i’w haddasu, gan nad oes clinig allgymorth ar gyfer orthodonteg ar gael yng Ngheredigion. Felly, pa gamau rydych yn eu cymryd gyda’r bwrdd iechyd, Weinidog, i sicrhau yn gyntaf ein bod yn cael clinig allgymorth, fel nad oes raid i’n hetholwyr deithio tair awr ynfyd i addasu eu bresys yn unig, ac yn ail, i dorri’r rhestr aros yng Ngheredigion fel ei bod yn debycach i hyd rhestrau aros mewn rhannau eraill yng nghanolbarth Cymru?