Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 7 Rhagfyr 2016.
Fel y bwrdd iechyd, rwy’n cydnabod bod her ynglŷn â’r ddarpariaeth o fewn ardal y bwrdd iechyd, yn cynnwys yn sir Ceredigion. Mae amrywiaeth o glinigau asesu wedi bod ar draws ardal y bwrdd iechyd, gan gynnwys nifer o glinigau yn Aberystwyth, ac rwyf wedi ateb cwestiwn ysgrifenedig atoch yn ddiweddar ar y pwnc penodol hwn. Felly, rwy’n cydnabod nad yw popeth fel y dylai fod, fod rhai pobl yn aros yn rhy hir ac mae’n her go iawn i’r bwrdd iechyd fynd i’r afael â hi a’i rheoli’n effeithiol. Mewn gwirionedd, rwy’n edrych ymlaen at dderbyn adroddiad ar gyflwr y gwasanaethau orthodontig ar hyd a lled y wlad—diweddariad ar ein sefyllfa. Dylai hwnnw gael ei ddarparu ddiwedd mis Ionawr, gyda mwy o esboniad o ble rydym ar hyn o bryd a’r meysydd sydd angen eu gwella. Ond mae Hywel Dda yn deall bod hon yn elfen y byddwn yn dychwelyd ati. Gallant ddisgwyl hynny, nid yn unig gennych chi, ond gan y teuluoedd eu hunain sy’n aros yn hwy nag y dylent am y driniaeth rydych yn ei hamlinellu ac yn ei nodi. Felly, nid oes unrhyw synnwyr o laesu dwylo ac mae’r gwelliant sydd ei angen yn cael ei gydnabod.