Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 7 Rhagfyr 2016.
Diolch am y cwestiwn. Rwy’n cydnabod bod hyn yn symud ymlaen o’r pwynt penodol am wasanaethau orthodonteg i ofal iechyd cyffredinol y geg, ond mae hwn yn fater rwyf wedi’i drafod gyda’r prif swyddog deintyddol newydd yng Nghymru ac yn wir, rwyf wedi gwneud y pwynt gyda Chymdeithas Ddeintyddol Prydain hefyd—ein bod yn cydnabod bod gofal iechyd y geg yn rhan bwysig o’r unigolyn cyfan. Dyna pam ein bod wedi lansio cynllun gwell ar gyfer gofal iechyd y geg mewn lleoliadau gofal preswyl yn y Cynulliad diwethaf. Rwy’n disgwyl derbyn y newyddion diweddaraf ar y camau gweithredu a gymerir, gan fod rhywbeth ynglŷn â chydnabod y gwaith o gomisiynu gofal mewn lleoliad gofal preswyl ac am ddarparu gofal sylfaenol ar gyfer y person hwnnw yn ogystal. Felly, mae hwn yn fater sydd ar fy meddwl. Mae’n rhan o’r sgwrs a gefais gyda’r prif swyddog deintyddol, ac rwy’n disgwyl gweld cynnydd pellach yn cael ei wneud yn ystod y tymor hwn.