<p>Gwasanaethau Orthodonteg yn Ardal Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 7 Rhagfyr 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 2:54, 7 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n siwr y byddwch yn cytuno â mi na ellir bychanu pwysigrwydd gofal iechyd y geg da ac mae hyn yn arbennig o bwysig mewn lleoliad gofal cymdeithasol lle y gall gofal iechyd y geg gwael effeithio ar allu pobl i siarad, i gyfathrebu a bwyta hyd yn oed. Mae diweddariad cynllun lleol iechyd y geg bwrdd iechyd prifysgol Hywel Dda yn cydnabod y mater hwn, ond nid yw’n rhoi fawr o amlinelliad o’r cynnydd sydd wedi’i wneud yn y maes penodol hwn. Felly, a allwch ddweud wrthym sut y mae Llywodraeth Cymru’n monitro effeithiolrwydd bwrdd iechyd prifysgol Hywel Dda yn sicrhau bod gofal iechyd y geg yn cael ei integreiddio i gynlluniau iechyd a gofal cymdeithasol cyffredinol, fel bod y rhai sydd mewn lleoliadau gofal cymdeithasol yn derbyn y gwasanaethau gorau sydd ar gael?