<p>Gwasanaethau Bydwreigiaeth</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 7 Rhagfyr 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Steffan Lewis Steffan Lewis Plaid Cymru 2:56, 7 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

Yn flaenorol, awgrymodd Ysgrifennydd y Cabinet nad oedd angen uned mam a’i baban arbenigol yng Nghymru oherwydd bod gwasanaethau o’r fath yn cael eu darparu yn y gymuned, ond ar ôl ymchwilio ymhellach mae’n ymddangos i mi mai dau fwrdd iechyd yn y wlad hon yn unig sydd â darpariaeth ar gyfer gofal iechyd meddwl amenedigol arbenigol. Rwy’n tybio bod y Llywodraeth, ac efallai Ysgrifennydd y Cabinet hyd yn oed, wedi cynnal asesiad effaith ar y penderfyniad i gau’r uned mam a’i phlentyn arbenigol olaf ar gyfer cleifion mewnol yng Nghymru yn 2013. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet sicrhau bod copïau o’r asesiad hwnnw ar gael yn llyfrgell y Cynulliad?