<p>Gwella Safon Gwasanaethau’r GIG (Canol De Cymru)</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 7 Rhagfyr 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 3:01, 7 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n siŵr y buasech, fel fi, wedi cael eich dychryn gan nifer yr ambiwlansys sydd y tu allan i adran ddamweiniau ac achosion brys Ysbyty Athrofaol Cymru a’r pwysau y mae hynny’n ei roi ar y staff a’r pryder y mae’n ei roi ym meddyliau cleifion. Gwn fy mod wedi gofyn am gwestiwn brys ar y mater penodol hwn oherwydd bod y materion sy’n ymwneud â phroblemau staffio’r adran ddamweiniau ac achosion brys yn parhau yng Nghaerdydd. Pa gamau rydych yn eu cymryd i weithio gyda Chaerdydd a’r Fro i sicrhau bod y pwysau hwnnw’n cael ei leddfu, yn enwedig wrth i ni wynebu cyfnod prysur y Nadolig oherwydd ni all fod yn dderbyniol cael cymaint â hynny o ambiwlansys wedi parcio y tu allan i adran ddamweiniau ac achosion brys, ambiwlansys nad ydynt mewn defnydd yn y bôn ac nad ydynt yn gallu gwneud y gwaith y maent yn ei wneud o gwmpas Canol De Cymru, sef cludo pobl i’n hysbytai mewn argyfwng?