Part of the debate – Senedd Cymru am 3:13 pm ar 7 Rhagfyr 2016.
Roeddwn yn bwriadu bod yn hael yn fy ymateb, yn wahanol i’r Aelod, ac awgrymu mai camgymeriad ar ei ran yn hytrach na drygioni a’i harweiniodd i honni llawer o wallau ffeithiol. Ond rwyf am gychwyn gyda’r dyfyniad y mae wedi’i ailadrodd, gan Chris Grayling, na lwyddodd i’w ailadrodd yn llawn. Dywedodd Chris Grayling,
Mae angen i mi gywiro’r gŵr bonheddig ar hynny: nid ydym yn datganoli cyfrifoldeb dros y fasnachfraint gyfan ar gyfer Cymru, ac yna fe stopioch, ond aeth Chris Grayling ymlaen i ddweud, ‘fel y mae’n ei ddisgrifio’. Aeth ymlaen i ddweud, mewn perthynas â throsglwyddo rheolaeth i Lywodraeth Cymru, ‘heb rwystrau a gwrthbwysau’. Yr hyn y mae’n ei olygu yw sicrhau bod yna atebolrwydd ar gyfer teithwyr sy’n teithio rhwng lleoliadau yn Lloegr ar ochr Lloegr i’r ffin o fewn llwybr Cymru. Mae’r rhain yn gytundebau nad ydynt wedi cael eu cyrraedd eto, ond cefais fy nghofnodi’n dweud ei bod yn hollol gywir a phriodol y dylai fod gennym atebolrwydd ar waith ar gyfer yr elfennau hynny o’r gwasanaeth. Rydym wedi cytuno gyda Llywodraeth y DU—gadewch i mi fod yn gwbl glir, eto, heddiw—y bydd yr holl wasanaethau a weithredir o dan fasnachfraint gyfredol Cymru a’r gororau yn cael eu cynnwys ym masnachfraint nesaf Cymru a’r gororau ac y byddwn yn arwain ar y broses o gaffael y gwasanaethau hyn. Mae’r pedwar cynigydd yn gwybod hynny. Bydd y map, fel y dywedais, yn aros yn ddigyfnewid i raddau helaeth. Yn wir, yn amodol ar ein gallu i sicrhau llwybrau trenau, rydym hefyd wedi sicrhau cytundeb yr Ysgrifennydd Gwladol i weithredu gwasanaethau i Lerpwl a Bryste o dan fasnachfraint Cymru a’r gororau yn y dyfodol. Felly, mewn gwirionedd, nid yn unig y bydd y map yn aros yn ddigyfnewid, mae’n ymddangos y byddwn yn gallu ymestyn gwasanaethau yn y dyfodol.