Part of the debate – Senedd Cymru am 4:07 pm ar 7 Rhagfyr 2016.
Hoffwn wneud rhai sylwadau cryno mewn ymateb i rai o’r areithiau yma y prynhawn yma. Hoffwn gefnogi’r hyn a ddywedodd John Griffiths am botensial y parkrun yn frwd. Yn ddiweddar, cymerais ran yn y parkrun newydd ar arfordir Llanelli, a oedd yn brofiad gwych. Bob tro rwyf wedi cymryd rhan yn y parkrun, fel rhywun nad yw’n rhedwr naturiol, rwyf bob amser yn cael fy llenwi â brwdfrydedd gan gefnogaeth y gwirfoddolwyr sy’n eich annog i ddal ati. I’r rhan fwyaf o bobl sy’n cymryd rhan yn y parkrun, oni bai am y gweithgaredd hwnnw, ni fyddent yn gwneud dim am 9 o’r gloch ar fore Sadwrn. Am y £6,000 o fuddsoddiad sydd ei angen i’w gweithredu, rwy’n meddwl eu bod yn gwbl amlwg yn fuddsoddiad iechyd y cyhoedd gwerth chweil, ac rwy’n falch o’u gweld yn ffynnu ar draws y wlad.
Roeddwn eisiau siarad yn benodol am yr elfen o’r cynnig sy’n ymwneud â photensial dihysbydd y Ddeddf teithio llesol, a chredaf ei bod ychydig yn llym o bosibl, o ystyried mai newydd gael ei rhoi mewn grym y mae’r Ddeddf, ond rwy’n credu ei bod yn gywir nodi na allwn weld hwn fel ymarfer ticio blychau’n unig ac ni allwn ei weithredu rywsut-rywsut. Dyma gyfle enfawr i geisio cael pobl nad ydynt yn gwneud fawr ddim gweithgarwch corfforol ar hyn o bryd i wneud hynny. Mae yna ddigon o dystiolaeth i ddangos mai’r ffordd i gael pobl sy’n segur yn gorfforol i wneud rhywfaint o weithgarwch corfforol yw ei wneud yn rhan o’u trefn bob dydd, ac mae disgwyl iddynt fynd i ganolfannau hamdden neu gampfeydd yn debygol o fod yn aneffeithiol. Felly, dyma gyfle enfawr i gyrraedd rhan o’r boblogaeth sydd fwyaf o angen i ni estyn allan ati.
Rwy’n credu ein bod yn dioddef weithiau yn y Siambr hon o’r hyn a elwir yn ‘anghysondeb gwybyddol’ pan fyddwn yn dweud un peth, ond yn gwneud rhywbeth arall. O ran iechyd y cyhoedd, rydym yn siarad yn frwdfrydig am werth teithio llesol a gweithgarwch corfforol, ac eto, pan fyddwn yn sôn am strategaeth economaidd, er enghraifft, neu os ydym yn siarad am faterion trafnidiaeth, rydym yn rhoi hynny i’r naill ochr, ac rydym fel pe baem yn meddwl mai cyfrifoldeb y proffesiwn iechyd yw gweithgarwch corfforol. Pan fyddwn yn gwneud gweithgareddau eraill, nid ydym yn meddwl sut y gellir defnyddio’r tasgau hynny i gyflawni’r lefelau cynyddol o weithgarwch corfforol sydd angen i ni eu gweld. Felly, er enghraifft, i ddychwelyd at thema rwyf wedi siarad amdani’n ddiweddar—annog parcio am ddim yng nghanol trefi. Dylem fod yn annog canol trefi a threfi sy’n gwneud beicio a cherdded yn hawdd, a defnyddio buddsoddiad cyhoeddus prin i adeiladu rhwydweithiau i annog pobl i wneud y teithiau dyddiol byr hynny. Mae tua 20 y cant o deithiau car yn llai na milltir. Gellid cerdded a beicio yn lle defnyddio car ar lawer o’r teithiau hyn.
Er enghraifft, yn fy nhref i, sef Llanelli, cafwyd argymhelliad ar gyfer rhwydwaith beicio trefol i gysylltu pobl â’r cyrchfannau pob dydd y byddant eisiau eu cyrraedd. Ond yn anffodus, mae’r cyngor sir—cyn dyddiau teithio llesol, ond mae’r cynlluniau hynny bellach ar y gweill—yn canolbwyntio eu buddsoddiad ar lwybrau pellter hwy a llwybrau twristiaeth, ac nid ar lwybrau bob dydd. Yn hytrach na sefydlu polisïau sy’n mynd i annog ffyrdd o fyw llonydd, megis meysydd parcio rhad ac am ddim, mae gwirioneddol angen i ni achub ar bob cyfle i gynnwys gweithgarwch corfforol ym mhob un o’n cynlluniau.
Nodaf yn ddiweddar fod cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi strategaeth feicio uchelgeisiol ar gyfer y ddinas, ac mae gwir angen i ni ei chefnogi a’i hyrwyddo. Gwn eu bod wedi bod yn cael trafferth o fewn y dinas-ranbarth, er enghraifft. Mae’r cytundeb dinas, sy’n dal yn frith o feddwl uniongred a hen-ffasiwn iawn, lle y mae awdurdodau lleol ar hyd a lled y Cymoedd yn gweld cyfle am gyllid ac yn chwythu’r llwch oddi ar gynlluniau ffyrdd sydd wedi bod ganddynt ar y silffoedd ers 30 a 40 mlynedd mewn rhai achosion. Mae Caerdydd, i fod yn deg â hwy, yn dangos gwir arweiniad yn adeiladu ar yr enillion a welsom yn y 10 mlynedd diwethaf yn y ddinas o ran lefelau uwch o feicio, ac maent wedi llunio cynllun uchelgeisiol. Ond rwy’n gwybod eu bod wedi cael anhawster yn y dinas-ranbarth i gael cymorth ar gyfer hynny. Rwy’n falch, yn achos dinas-ranbarth bae Abertawe, nad yw gweledigaeth Terry Matthews wedi ymwneud â ffyrdd a pharciau menter—mae wedi ymwneud â chysylltedd digidol. Rwy’n credu mai dyna’r meddylfryd sy’n rhaid i ni ei gofleidio.
Mae’r Ddeddf teithio llesol, fel y crybwyllwyd, yn rhoi gwobr enfawr bosibl o fewn ein gafael. Ond ni ellir ei hystyried yn syml fel dyletswydd y mae’n rhaid i ni ei chyflawni. Mae’n rhywbeth y mae’n rhaid i ni ei gofleidio’n frwdfrydig. Mae’n rhaid i ni wthio—pob un ohonom yn ein rolau arweiniol yn ein cymunedau—i gael pobl i fwydo’r llwybrau posibl y byddent yn hoffi eu gweld i mewn yn rhan o’r mapiau rhwydwaith integredig, er mwyn cael y teithiau bob dydd hynny yn y cynlluniau fel mai dyna a gaiff ei ddarparu’n gyntaf. Mae’n wobr enfawr, a dim ond camau gweithredu o’r fath sy’n mynd i drechu gordewdra. Felly, mae gwir angen i ni roi’r gorau i’r anghysondeb gwybyddol, ac archwilio pob cyfle i gynnwys cynnydd mewn gweithgarwch corfforol yn ein holl raglenni. Diolch.