7. 5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Datganiad yr Hydref

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:35 pm ar 7 Rhagfyr 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 4:35, 7 Rhagfyr 2016

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rydw i’n falch i fedru symud gwelliannau 2, 3, 4 a 5 yn enw Plaid Cymru. Ac wrth gwrs, mae’r gwelliannau yma yn ffocysu yn benodol ar y pethau a adawyd mas o’r datganiad. Efallai ei fod yn rhyw fath o adlewyrchiad o bersonoliaeth wahanol y Canghellor yma. Mae yna ryw awgrym nad oedd am ddilyn y math o ymagwedd mwy theatrig a oedd gan y Canghellor blaenorol a chyhoeddi llwyth o bethau'r un pryd, felly roedd e eisiau, efallai, dal rhai pethau yn ôl. Rwy’n gobeithio, gyda rhai o’r pethau rwyf am eu codi mewn munud, mai dyna beth ddigwyddodd, ac na fyddwn ni’n gorfod aros yn rhy hir ar gyfer y cyhoeddiadau rydym am eu gweld.

Rydym ni’n cyfeirio yng ngwelliant 2, wrth gwrs, at drydaneiddio, nid yn unig y llinell rhwng Caerdydd ac Abertawe, lle mae yna oedi, wrth gwrs, sy’n gwbl annerbyniol, ac sy’n mynd i effeithio, wrth gwrs, ar yr economi i’r gorllewin o Gaerdydd, ond hefyd trydaneiddio llinell gogledd Cymru. Yn y cyswllt yna, wrth gwrs, hefyd, mae’n beth gwael i weld nad oes cytundeb mai prosiect ar gyfer Lloegr yn unig ydy HS2 a dweud y gwir. Mae yna dystiolaeth gan KPMG sy’n awgrymu y bydd Cymru mewn sefyllfa waeth o ran cystadleurwydd ar ôl HS2, ac eto, oherwydd y ffordd mae wedi cael ei gategoreiddio, wrth gwrs, nid oes codiad Barnett o ran cyllid yn sgil hynny. Mae’n drist ofnadwy, a dweud y gwir. Cefais air gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru ynglŷn â hyn yng nghinio’r CBI. Pam, unwaith eto, nad yw Cymru yn cael ei drin yn gydradd o ran y dreth teithwyr awyr? Nid oes yna ddim rhesymeg, nid oes yna ddim moeseg y tu ôl i’r penderfyniad, a dweud y gwir, pan mae Cymru ei angen, yn y cyfnod ôl-Brexit yma, sy’n fregus yn economaidd â’r holl ansicrwydd. Pam nad ydym ni’n cael chwarae teg? Dyna beth rydym ni’n gofyn amdano fe, wrth gwrs: yr un gallu ag sydd wedi cael ei roi i Ogledd Iwerddon a’r Alban.